Luwc 13 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

DOSBARTH IX.Natur y Deyrnas.

1-5Yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnw, rai yn mynegi i Iesu am y Galileaid, y rhai y cymysgasai Pilat eu gwaed yn nghyd a’r eiddo eu haberthau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied mai y Galileaid hyn oeddynt y pechaduriaid mwyaf yn holl Alilea, am iddynt ddyoddef y cyfryw driniaeth? Nage, meddaf i chwi; eithr oni ddiwygiwch, chwi á ddyfethir oll yn yr un modd; – neu y deunaw hyny, àr y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac á ’u lladdodd hwynt; a ydych chwi yn tybied mai hwy oeddynt y dyhirod gwaethaf yn Nghaersalem? Nage, meddaf i chwi; eithr oni ddiwygiwch, chwi á ddyfethir oll yn yr un modd.

6-9Efe á ddywedodd hefyd y ddameg hon. Yr oedd gàn un ffigysbren wedi ei blànu yn ei winllan, ac efe á ddaeth i geisio ffrwyth arno, a nis cafodd. Yna y dywedodd efe wrth y gwinllanydd, Hon yw y drydedd flwyddyn i mi ddyfod gàn geisio ffrwyth àr y ffigysbren hwn, ac heb gael dim. Tor ef i lawr, paham y mae efe yn diffrwytho y tir? Yntau á atebodd, Sỳr, gad ef un flwyddyn yn hwy, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail; ysgatfydd efe á ddwg ffrwyth; onide, gwedi hyny, ti á elli ei dòri ef i lawr.

10-17Ar y Seibiaeth, fel yr oedd efe yn dysgu yn y gynnullfa, yr oedd yno wraig y buasai ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, drwy yr hwn y crymasid hi gymaint, fel nas gallai hi mewn modd yn y byd ymuniawni. Iesu gwedi ei chanfod, a’i galwodd hi ato, a gwedi dodi ei ddwylaw arni, á ddywedodd, Wraig, rhyddawyd di oddwrth dy wendid. Yn ebrwydd hi á unionwyd, ac á ogoneddodd Dduw. Ond llywydd y gynnullfa, gwedi ei gynhyrfu gàn ddigllonedd, am i Iesu iachâu àr y Seibiaeth, á ddywedodd wrth y bobl, Y mae chwe diwrnod i weithio; àr y rhai hyn, gàn hyny, deuwch ac iachâer chwi, a nid àr ddydd y Seibiaeth. I’r hyn yr atebodd yr Arglwydd, Ragrithwyr! pwy yn eich mysg, nad yw àr y Seibiaeth, yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, ac yn ei arwain i’r dwfr? Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon á rwymodd Satan, wele! y deunaw mlynedd hyn, gael ei rhyddâu o’r rhwym hwn àr ddydd y Seibiaeth? Fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef á gywilyddiasant; ond yr holl dyrfa á lawenychai am yr holl weithredoedd gogoneddus à gyflawnid ganddo.

18-19Efe á ddywedodd, yn mhellach, I ba beth y mae teyrnas Duw yn debyg? I ba beth y cymharaf hi? Tebyg yw i ronyn o had cethw, yr hwn á daflodd dyn iddei ardd; ac efe á dyfodd ac á aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr á ymddiddosent yn ei gangenau ef.

20-21Darchefn, efe á ddywedodd, I ba beth y cymharaf deyrnas Duw? Tebyg yw i eples, yr hwn á gymysgodd gwraig mewn tri mesur o flawd, hyd oni epleswyd y cwbl.

22-30Ac efe á gymerodd daith i Gaersalem, gàn ddysgu wrth fyned drwy ddinasoedd a phentrefi; a gofynodd un iddo, Feistr, ai ychydig yw y rhai fyddant gadwedig? Yntau á atebodd, Ymdrechwch fyned i fewn drwy y porth cyfing; canys llawer, yr wyf yn gwirio i chwi, á ddeisyfant gael myned i fewn, ond ni lwyddant. Os unwaith y cyfyd gŵr y ty a chloi y drws, ac i chwithau yn sefyll oddallan ac yn curo, ddywedyd, Feistr, Feistr, agor i ni; efe á etyb, Nis gwn o ba le yr ydych. Yna y dywedwch chwithau, Ni á fwytasom ac á yfasom gyda thi, a thi á ddysgaist yn ein heolydd ni. Ond efe á etyb, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nis gwn o ba le yr ydych; symudwch oddyma, chwi holl weithredwyr annghyfiawnder. Yna y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Iacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Duw, a chwithau gwedi eich cau allan; na, daw rhai o’r dwyrain, o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deäu, ac á osodant eu hunain wrth y bwrdd yn nheyrnas Duw. Ac wele, olaf ydyw y rhai à fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai à fyddant olaf.

31-35Yr un diwrnod, rhyw Phariseaid á ddaethant ato, ac a ddywedasant, Dos ymaith; ymâd oddyma, canys y mae Herod yn amcanu dy ladd di. Yntau á atebodd, Ewch, dywedwch i’r cadnaw hwnw, Yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iachâu heddyw ac yfory, a’r trydydd dydd y gorphenir fy nghyrfa. Er hyny, rhaid i mi ymdaith heddyw ac yfory a thrènydd; canys ni all fod y tòrir ymaith Broffwyd yn un màn ond yn Nghaersalem. O Gaersalem! Gaersalem! yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y sawl à anfona Duw atat! pa sawl gwaith y mynàswn gasglu dy blant yn nghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dàn ei hadenydd, ond nis mỳnech! Ebrwydd y gadewir eich tŷ; canys yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, ni welwch fi darchefn, hyd yr amser y dywedwch, Bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help