1-2 Paul, Apostol i Iesu Grist, drwy ewyllys Duw, o ran addewid y bywyd, yr hwn sy drwy Grist Iesu; at Dimotheus, fy mab anwyl: Rhad, trugaredd, a thangnefedd, oddwrth Dduw Dad, ac oddwrth Grist Iesu ein Harglwydd.
3-18Yr ydwyf yn diolch i Dduw, (yr hwn o’m hynafiaid yr wyf yn ei wasanaethu â chydwybod bur,) bod genyf goffa dibaid am danat ti yn fy ngweddiau nos a dydd; wrth gofio dy ddagrau, yr wyf yn mawrhiraethu am dy weled, fel ym llanwer o lawenydd: gàn alw i’m cof hefyd y ffydd ddiffuant y sydd ynot, yr hon á drigodd yn gyntaf yn dy nain Loïs, ac yn dy fam Eunice, ac yr wyf yn coelio ei bod yn trigo ynot tithau hefyd. Am ba achos yr ydwyf yn dy goffâu i gynhyrfu ysbrydol ddawn Duw, yr hwn sydd ynot drwy arddodiad fy nwylaw i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd llyfrdra; ond ysbryd nerth, a chariad, ac iawnbwyll. Am hyny, na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd dros yr efengyl, yn ol nerth Duw; yr hwn á’n hachubodd ni, ac á’n galwodd â galwedigaeth santaidd, – nid o ran ein gweithredoedd ni, ond o ran ei arfaeth a’i radioni ei hun, yr hwn á roddwyd i ni drwy Grist Iesu, cyn amseroedd yr oesau, ac á eglurwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist; yr hwn, yn wir, á orchfygodd angeu, ac á ddyg fywyd ac anllygredigaeth i oleuni drwy yr efengyl; i’r hon ym gosodwyd i yn gyhoeddwr, ac yn apostol, ac yn athraw i’r Cenedloedd: am ba achos yr ydwyf hefyd yn dyoddef y pethau hyn. Er hyny nid oes arnaf gywilydd; canys mi á wn i bwy y credais, ac y mae yn ddiogel genyf ei fod ef yn alluog i gadw yr hyn à roddais ato, hyd y dydd hwnw. Ffurf yr ymadroddion iachus y rhai á glywaist genyf fi, dal yn lew, gyda’r ffydd a’r cariad y sydd yn Nghrist Iesu. Y peth da à rodded iddei gadw atat, cadw drwy yr Ysbryd Glan, yr hwn sydd yn preswylio ynom. Ti á wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia fy nhroi ymaith; o’r sawl y mae Phygèlus a Hermogenes. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i deulu Onesiphorus; canys efe á’m llònodd i yn fynych, a nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i: eithr pan oedd yn Rhufain, efe á’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac á’m cafodd. Caniatäed yr Arglwydd iddo gael trugaredd gàn yr Arglwydd yn y dydd hwnw! A pha faint o wasanaeth á wnaeth efe i mi yn Ephesus, ti á wyddost yn dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.