Luwc 10 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-12Gwedi hyny y pènododd yr Arglwydd seithdeg ereill hefyd, ac á’u hanfonodd hwynt bob yn ddau i bob dinas a lle yr oedd efe yn bwriadu myned. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Y cynauaf sy gnydfawr, ond y medelwyr ynt ychydig; gweddiwch, gàn hyny, àr Arglwydd y cynauaf am ddanfon llafurwyr iddei fedi. Ewch gàn hyny; wele yr wyf fi yn eich danfon allan fel ŵyn yn mysg bleiddiaid. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; a na chyferchwch well i neb àr y ffordd. Ac i ba dŷ bynag yr eloch i fewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. Ac os bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd á orphwys arno; os yn amgen, efe á adchwel arnoch eich hunain. Ond aroswch yn yr un tŷ, gán fwyta ac yfed, y cyfryw bethau ag á gaffoch ganddynt; canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: nac ewch o dŷ i dŷ. A pha ddinas bynag yr eloch iddi, os derbyniant chwi, bwytewch y cyfryw bethau ag á rodder gèr eich brònau; iachewch y cleifion, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Eithr pa ddinas bynag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’r heolydd, a dywedwch, Hyd yn nod tom eich heolydd, yr hwn sydd yn glynu wrthym, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich erbyn; èr hyny gwybyddwch bod Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Yr wyf yn sicrâu i chwi, y bydd cyflwr Sodoma yn fwy goddefadwy y dydd hwnw, na chyflwr y ddinas hòno.

13-16Gwae di, Gorazin! gwae di, Fethsaida! Canys pe gwnaethid yn Nhyrus a Sidon y gwyrthiau à wnaethwyd ynoch chwi, hwy á edifarasent èr ys talm, gàn eistedd mewn sachlian a lludw. O herwydd paham, bydd cyflwr Tyrus a Sidon yn fwy goddefadwy yn y farn, na’r eiddoch chwi. A thithau, Gapernäum, yr hon á ddyrchafwyd hyd y nef, á dỳnir i lawr hyd yn Hades. Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a’r neb sydd yn eich gwrthod chwi, sydd yn fy ngwrthod i; a’r neb sydd yn fy ngwrthod i, sydd yn gwrthod yr hwn á’m hanfonodd i.

17-24A’r seithdeg á ddychwelasant gyda llawenydd, gàn ddywedyd, Feistr, hyd yn nod y cythreuliaid á ddarostyngir i ni, drwy dy enw di. Efe á ddywedodd wrthynt, Mi á welais Satan yn syrthio fel mellten o’r nef. Wele! yr wyf fi yn eich galluogi i sathru àr seirff ac ysgorpionau, a holl gryfder y gelyn; a ni chaiff dim eich niweidio. Er hyny, na lawenewch yn hyn, bod yr ysbrydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenewch am fod eich enwau gwedi eu cofrestru yn y nefoedd. Y pryd hwnw Iesu á lawenychodd yn yr ysbryd, ac á ddywedodd, Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daiar, am i ti, gwedi cuddio y pethau hyn oddwrth ddoethion a’r dysgedigion, eu dadguddio hwynt i fabanod. Ië, O Dad, oblegid felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth á roddwyd i mi gàn fy Nhad; a ni wyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a’r sawl y mỳno y Mab ei ddadguddio iddo. Yna gwedi troi o’r neilldu, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Gwyn eu byd y llygaid à welant y pethau à welwch chwi. Canys yr wyf yn sicrâu i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a breninoedd weled y pethau à welwch chwi; ond ni welsant; a chlywed y pethau à glyẅwch chwi; ond ni chlywsant.

25-37Yna rhyw gyfreithiwr á gododd, ac á ddywedodd, gàn ei brofi ef, Rabbi, pa beth á wnaf i gaffael bywyd tragwyddol? Iesu á ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa beth wyt ti yn ei ddarllen yno? Yntau á atebodd, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac ä’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun.” Iesu á adatebodd, Ti á atebaist yn iawn. Gwna hyn, a byw fyddi. Yntau yn chwennychu ymddangos yn ddifai, á ddywedodd wrth Iesu, Pwy yw fy nghymydog? Iesu á ddywedodd mewn atebiad, Gwr o Gaersalem, wrth ymdaith i Iericho, á syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai gwedi ei ddyosg ef a’i archolli, á aethant ymaith, gàn ei adael ef yn hanner marw. Rhyw offeiriad wrth fyned yn ddamweiniol y ffordd hòno, a’i weled, á aeth ymaith o’r tu arall heibio. Yr un ffunud Lefiad, àr y ffordd, pan ddaeth yn agos i’r fàn, a’i weled ef, á aeth heibio o’r tu arall. Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, á ddaeth lle yr oedd efe, a phan ei gwelodd, á dosturiodd, ac á aeth i fyny ato, a gwedi tywallt olew a gwin iddei archollion, efe á’u rhwymodd i fyny. Yna efe á’i gosododd ef àr ei anifail ei hun, á’i dyg i westdy, ac á ofalodd am dano. Tranoeth, wrth fyned ymaith, efe á dỳnodd allan ddwy geiniog, a gwedi eu rhoddi i’r gwesteiwr, á ddywedodd, Gofala am y gwr hwn, a pha beth bynag á dreuliech yn chwaneg, pan ddychwelyf, mi á’i talaf i ti. Yn awr pa un o’r tri hyn yr wyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn á syrthiasai yn mhlith yr ysbeilwyr? Y cyfreithiwr á atebodd, Yr hwn á wnaeth drugaredd ag ef. Yna y dywedodd Iesu, Dos dithau, a gwna yr un modd.

38-42A fel yr oeddynt yn ymdeithio, efe á aeth i bentref, a rhyw wraig, a’i henw Martha, á’i gresawodd ef yn ei thŷ. Yr oedd ganddi chwaer à elwid Mair, yr hon á eisteddodd wrth draed Iesu, gán wrandaw àr ei ymadrodd ef: ond Martha, yr hon oedd yn fawr ei thrafferth yn nghylch gwasanaethu, à ddaeth ato ef, ac á ddywedodd, Feistr, á wyt ti yn gofalu dim am fod fy chwaer yn fy ngadael i fy hun i wasanaethu? Dywed wrthi, gàn hyny, am fy nghynnorthwyo. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt yn nghylch llawer o bethau. Un peth yn unig sydd angenrheidiol. A Mair á ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddarni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help