1Molwch Ior yn ei burdeb llym,
Ac yn ffurfafen fawr ei rym;
2Am ei gadernid molwch Ner;
Yn amldra ’i fawredd molwch Ef,
3A llais y trwmped uchel lef,
A nabl a thannau ’r delyn ber.
4A dawns a thympan molwch Ior,
A thant ac organ fwyn yn gôr;
5Ar y symbalau molwch Ef,
Ar y symbalau llafar per;
6Pob perchen chwŷth molianned Ner;
O molwch Arglwydd mawr y nef.
Terfyn y Psallwyr.Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.