1Duw sy ’n Frenhin yn teyrnasu,
Cryna ’r bobloedd ger ei fron;
Rhwng dau Gerub mae ei orsedd,
Ymgynhyrfed daear gron:
2Mawr yn Sïon ei breswylfod,
Uwch na phobloedd byd yw Duw;
3Molant dy fawreddus Enw,
Sanctaidd ac ofnadwy yw.
4Nerth y Brenhin, barn a hoffa;
Pur gyfiawnder a sicrhêi;
Gwaith dy ddwylaw sy gyfiawnder,
Barn yn Jacob lân a wnei:
5O dyrchefwch mewn canmoliaeth,
Enw mawr ein Harglwydd Dduw;
Plygwch oll o flaen ei ’stoldraed,
Pur a glân a sanctaidd yw.
6Moses fwyn ac Aaron sanctaidd
Gyd â’i lan offeiriaid Ef;
Samuel ym mysg y bobloedd
Sy ’n dyrchafu arno ’u llef:
Ar yr Arglwydd y galwasant,
Clybu ei glust o’i Gafell lân;
7Mynych wrthynt y llefarodd
Yn y golofn niwl a thân:
Cadw a wnaent dy deddf a’th farnau,
8Clywit Tithau, Ner, eu cri;
Ac wrth ddïal ar eu beiau,
Etto ’u harbed a wneit Ti. —
9O dyrchefwch mewn canmoliaeth,
Enw mawr ein Harglwydd Dduw;
Ar ei sanctaidd fryn ymgrymmwch,
Pur a glân a sanctaidd yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.