1I’r Arglwydd cenwch newydd gân,
I’r Arglwydd cenwch, fawr a mân,
Drwy holl gwmpasoedd daear lawr;
2Ar gân bendigwch Enw ’r Ion,
Boed beunydd yn eich genau son
Am waith ei iachawdwriaeth fawr.
3Datgenwch wrth y bobl i gyd,
Traethwch i holl genhedloedd byd
Ei wyrthiau a’i ogoniant Ef:
4Mawr a moliannus iawn yw Duw,
Arswydus uwch y duwiau yw,
Ar uchel orsedd nef y nef.
5Beth wrth yr Ion yw duwiau ’r byd?
Eilunod gweigion gwael i gyd:
Duw Ner a wnaeth y nefoedd fry.
6O’i flaen mae urddas hardd a grym,
Gogoniant a disgleirdeb llym
Sy fyth ynghafell lân ei Dŷ.
YR AIL RAN7Rhoddwch, dylwythau ’r byd, i Dduw,
Rhowch iddo nerth ac urddas gwiw,
8Rhowch iddo fawl ei Enw glân:
Dygwch offrymmau ger ei fron,
A deuwch i’w gynteddau ’n llon,
Ennyned iddo ’ch clod yn dân.
9Mewn ardderchowgrwydd purdeb gwiw
Yn sanctaidd oll addolwch Dduw;
Ofned o’i flaen y ddaear lawr:
10Dywedwch wrth y bobl i gyd
Mai Duw sy ’n llywodraethu ’r byd
Ar orsedd wen ei allu mawr.
Y ddaear a sicrhâes Efe
Yn gref ddïogel yn ei lle; —
Y byd yn iawn a farn yr Ior:
11Poed uchelderau ’r nef yn llon,
A gorfoledded daear gron,
Rhued cyflawnder eigon môr.
12-13Y maes a’i ffrwythau ’n llawen boed,
A chaned irlas breniau ’r coed
Eu cerdd yn llon o flaen ein Duw:
Fe ddaw, fe ddaw, i farnu ’r byd
A’i bobl yn gyfiawn oll i gyd;
Cywir ac uniawn Farnydd yw
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.