1Achub fi, O Dduw, yn d’ Enw,
Barn fi yn dy allu mawr;
2Arglwydd, clyw fi ’n daer yn ymbil,
Gwrando lais fy ’ngweddi ’n awr:
3Canys trawsion a dïeithriaid,
Gan ymgodi ’n llidiog lu,
Heb roi Duw o flaen eu llygaid,
Sydd yn ceisio ’m bywyd cu.
4Wele, Duw sydd yn fy nerthu,
Denfyn gymmorth im’ wrth raid;
O’r rhai oll sy ’n cynnal f’ enaid,
Duw fy Ior sy bennaf blaid:
5Tâl Efe eu drwg amcanion
I’m gelynion cyn bo hir: —
Duw y dïal, tor hwynt ymaith
Oll yn ol d’ addewid wir.
6Ar dy allor yr offrymmaf
Ebyrth gwirfodd it’, fy Nuw;
Canaf itti glod soniarus;
Da yw canmol d’ Enw gwiw.
7O bob trallod, ing a blinfyd
Y’m gwaredodd f’ Arglwydd Cun;
Rhoes i’m llygaid wel’d f’ ewyllys
Ar f’ erlidwŷr trwch bob un.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.