Lyfr y Psalmau 139 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw, chwiliaist fi;

2adweini ’n llwyr

Fy nghodiad a’m heisteddiad oll;

Fy meddwl draw o bell, a’m bryd,

Tydi a’i gwyddost yn ddi‐goll.

3Amgylchi ’r llwybr a’r gwely mau,

Wyt hyspys yn fy ffyrdd o hyd;

4Ac ar fy nhafod nid oes air,

Ond Ti a’i gwyddost ef i gyd.

5Amgylchaist fi ymlaen ac ol,

Gosodaist arnaf, Ior, dy law;

6Rhy ryfedd im’ yw gwybod hyn,

Mae ’n uchel bell o’m golwg draw.

7Oddi wrth dy Yspryd i b’le ’r af

Yn nirgel fannau ’r ddaear gron?

O’th ŵydd i b’le y ffoaf fi,

Na byddi yno ger fy mron.

8Pe dringo wnawn i’r nefoedd fry,

Dy wyddfod yno, Ior, a gawn;

Pe gwnawn fy ngwely yn uffern ddofn,

Mae yno ’th bresennoldeb llawn.

9Pe cym’rwn adain bore wawr,

A thrigo yn eithafion môr;

10Yno ’m tywysit yn dy law,

Y’m daliai dy ddeheulaw, Ior.

11“Caddug tywyllwch dudew ’r nos,”

Meddwn, “o’th wŷdd a’m cuddiai ’n wir;”

Ond wele fagddu dunos ddofn

O’m hamgylch yn oleuni clir.

12Nid tywyll dunos rhagot Ti,

Caddug y fagddu ’n oleu fydd;

I Ti yr un yw tywyll nos

A llewyrch disglair hanner dydd.

YR AIL RAN

13F’ arennau ydynt eiddot, Ner,

Ynghrôth fy mam y’m toaist Ti:

14Ofnadwy, rhyfedd iawn y’m gwnaed,

Am hynny y’th glodforaf fi.

Mi wn mai rhyfedd yw dy waith;

15Ni ’m cuddiwyd rhagot yn y bru,

Yn ddirgel pan y’m gwnaeth dy law

Yn gywraint yn y ddaear ddu.

16Gwelaist f’ annelwig ddefnydd gynt

A’th lygad, cyn ffurfhâu fy llun;

’Sgrifenaist fy aelodau i lawr

O fewn dy lyfr, cyn gorphen un.

17Mor werthfawr yw ’th feddyliau im’!

Mor ddirfawr yw eu swm di‐ri’!

18Amlach eu rhif na ’r tywod man:

Pan ddeff’rwyf, wyf fyth gyd â Thi.

Y DRYDEDD RAN

19Duw, lleddi Di ’r annuwiol oll,

A gwnei hwynt oll yn anrhaith;

Am hynny, chwi wŷr gwaedlyd trwch,

Oddi wrthyf ciliwch ymaith.

20Ysgeler wŷr, â’u gwar yn syth,

Llefarant fyth i’th erbyn;

Ni chymmer neb mo ’th Enw, Ner,

Yn ofer, ond dy elyn.

21Cas gennyf dy gaseion Di,

Ynt ffiaidd i fy nghalon;

22Llawn yw fy nghas i’r giwed flin,

Maent oll i mi ’n elynion.

23Chwilia, O Dduw, a phrawf fi i gyd,

A gwybydd fryd fy nghalon;

24I’r ffordd drag’wyddol dwg fi ’n glau

O lwybrau ’r annuwiolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help