1A ystyr wrth y tlawd a’i lef,
Ei gyfran ef yw gwynfyd;
Gwaredir hwnnw gan Dduw Ner
Ynghyfyng amser adfyd.
2Yr Ior a’i ceidw ’n fyw o hyd
Mewn gwynfyd ar y ddaear;
Na ddod ef, Ner, i deimlo gwg
Ei elyn drwg dïalgar.
3Pan fyddo ar ei wely ’n glaf,
Bydd nerth Duw Naf i’w helpio;
Cyweiri Di ei wely, Ner,
Yn dyner, pan glafycho.
YR AIL RAN4Mi lefais arnat, Arglwydd hael,
Yn daer am gael trugaredd;
Iachâ Di glwyfau f’ enaid gwan,
Fe ’m clwyfwyd gan fy nhrosedd.
5Fy ngelyn yn f’ enllibio sydd,
“Pa bryd y bydd e’ farw?”
Medd ef, “Pa bryd y daw y dydd
Y derfydd am ei enw?”
6Os daw i’m gweled, yn fy ngwydd
Y dywed gelwydd aflan;
A chasglu mae ryw ddrwg ar gel
I’w draethu pan el allan.
7Caseion f’ enaid, o ddrwg fryd,
I’m herbyn cyd‐hustyngant;
A drwg i’m herbyn yn eu llid,
I’m gofid a ddyfeisiant.
8“Aflwydd i’w ran a melldith ddwys
Sy ’n awr yn gorphwys arno,
Mae ar ei wely,” meddant hwy,
“Ni chyfyd mwy oddi yno.”
9Y gwr oedd immi ’n gu, yr hwn
Yr ymddiriedwn iddo,
Er bod fy mara iddo ’n fwyd,
Ei sawdl a gwyd i’m cwmpo.
10Ond dangos Di dy ras, fy Ner,
I mi ’n rymmusder rhagddynt;
Cyfod fi fel y talwy ’n ol
Eu gwaith bradychol iddynt.
11Bellach ni chaiff fy ngelyn tost
Ddyrchafu bost i’m herbyn;
Wrth hyn y gwn yr hoffaist Ti,
O Arglwydd, fi dy blentyn.
Y DRYDEDD RAN12Yn fy mherffeithrwydd pur di‐nam,
Ti, Arglwydd, a’m cynheli;
A cher bron gwedd dy wyneb mad
Yn wastad y’m gosodi.
13Bendigaid fyddo ’n Harglwydd hael,
Duw Israel, bob amserau;
Amen, medd pawb drwy ’r byd a’r nef,
Amen yw ’m hadlef innau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.