1O Arglwydd, na cherydda
Fi yn dy lid a’th wg,
Ac yn dy dost ddigllonedd
Na chospa ’m bai a’m drwg:
2Yn wastad glynu ynof
Y mae dy saethau Di,
A’th lidiog law geryddol
Sy ’n orthrwm arnaf fi.
3Fy nghnawd sy ’n llawn afiechyd
Gan faint dy lid yn awr;
I’m hesgyrn nid oes heddwch
Gan faich fy meiau mawr:
4A thros fy mhen aeth tonnau
Fy holl gamweddau dwys;
Baich ydynt yn fy llethu,
’Rwy ’n pallu dan eu pwys.
5Fy nghleisiau a bydrasant,
Llygrasant gan fy nrwg;
6Yn ddirfawr y’m gostyngwyd
Gan orthrwm bwys dy wg:
’Rwy ’n cerdded yn alarus
Trwy gydol maith y dydd;
7Fy lwynau ’n llawn ffieidd‐dra,
A’m cnawd yn afiach sydd.
8Anafus yw f’ archollion,
Fy nerth yn egwan sydd;
Gan ruad trwm f’ ochenaid
Mae ’nghalon wan yn brudd.
9O flaen dy wyneb, Arglwydd,
Mae ’m holl ddymuniad i,
Fy ngwaedd a’m dwys ochenaid
Ni chuddiwyd rhagot Ti.
10Fy nghalon wan sy ’n crynu,
Fy nerth a’m gad yn wyw;
Y llewyrch aeth o’m llygad,
A disglair mwy nid yw:
11Fy ngharwŷr dan ymgroesi
A safent oddi draw;
A safai ’m cyfneseifiaid
O hirbell ger eu llaw.
YR AIL RAN12Y rhai a geisient f’ einioes,
Gosodent fagl i’m traed;
A cheisient fy niweidio,
Gan gynllwyn am fy ngwaed;
A thraethent anwireddau,
Dych’mygent beunydd ddrwg;
13A mi ni chlywn, fel byddar,
Heb yngan gair mewn gwg.
14Oeddwn fel gwr ni chlywai
Eu geiriau coeg a’u gwaith,
Heb yngan gair i’w herbyn,
Na ’u hargyhoeddi chwaith:
15O herwydd im’ obeithio,
Ion tirion, ynot Ti,
Ti glywi ’m prudd ochenaid,
Gwrandewi lais fy nghri.
16Gweddïais rhag i’m herbyn
Eu llawenychu ’n fawr;
I’m herbyn ymfawrgent
Pan lithrai ’m troed i lawr:
17’Rwy ’n barod fyth i gloffi
Wrth rodio ’r ddaear hon,
A’m clwyfau blin dolurus
Sy ’n wastad ger fy mron.
18Cyffesaf wrth dy orsedd
Yr holl anwiredd mau;
O herwydd maint fy mhechod
Mae ’nghalon yn pruddhâu;
19Egnïol yw ’m gelynion,
A nerthol yw eu grym;
A beunydd heb un achos
Amlhâ ’ngelynion llym.
20Am dda, rhyw ddrwg a dalant,
Gan wrthwynebu ’th was;
Pan wnelwyf ddim daioni,
Rhônt am fy nghariad, gas. —
21Ym mhell na ddos oddi wrthyf,
O Dduw, na ad fi mwy;
22I’m cymmorth, Arglwydd, brysia,
Iachawdwr wyt i’m clwy’.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.