1Graslawn a fuost, Ion, i’th dir,
Dychwelaist ei gaethiwed hir,
Daeth Jacob o’i gadwynau ’n rhydd:
2Maddeuaist feiau ’th bobl o’th ras,
Dileaist eu holl bechod cas,
3Aeth nos dy lid yn oleu ddydd.
Oddi wrth dy ddigter troaist draw,
4Atteliaist dy geryddol law:
Dychwel a thro ni yn dy hedd;
Iechyd ein henaid, Ior, wyt Ti,
Oh tyn dy ddig oddi wrthym ni,
Dod inni ras dy siriol wedd.
5Ai byth y ’n curi dan ein croes?
A bery ’th lid o oes i oes?
6-7Oh dychwel, dychwel i’n bywhâu:
Dangos i’n henaid ras dy hedd,
A iechyd dy gymmodlon wedd,
I’n llonni ynot, Arglwydd mau.
8Gwrendy fy nghlust ar eiriau ’m Duw;
Traethwr tangnefedd hyfryd yw
I bobl ei ras, ei anwyl Saint:
Na throant hwythau etto ’n ol
At wagedd gau na phechod ffol,
Ond parchu fyth eu bri a’u braint.
YR AIL RAN9Agos yw iechyd Arglwydd nef
At bawb a’r sy ’n ei ofni Ef;
Fe fydd fel hyn ogoniant gwir
Ac urddas yn coroni ’n tir.
10Cyfarfu gras a gwir mewn hedd
A’u gilydd, — llawen oedd eu gwedd;
Cyfiawnder pur a Hedd di‐ball
Yn hoff gusanu ’r naill y llall.
11Gwirionedd pur yn awr a dardd
O’r ddaear yn flaguryn hardd;
A llawen yw Cyfiawnder mawr
Wrth edrych arno o’r nef i lawr.
12Yr Ion a rydd ddaioni gwir,
A chnwd ehelaeth dyry ’n tir;
13O’i flaen yr â Cyfiawnder nef
I iawn hyfforddio ’i gamrau ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.