1Daeth y cenhedloedd, Arglwydd,
I’th etifeddiaeth Di;
Dy Deml a halogasant,
Dy Deml o sanctaidd fri:
Chwalasant Salem sanctaidd,
Carneddau ydyw ’n awr;
Ei theg uchelion furiau
Maluriwyd oll i lawr.
2I’r adar a’r gwylltfilod
Y rhoisant gnawd dy Saint,
3A’u gwaed fel dwfr yn rhedeg
Yn Salem fawr ei braint!
Ac nid oedd neb a’u claddai: —
4Fe ’n gwawdir o bob parth;
I bawb a’r sydd o’n hamgylch
Gwatwor‐gerdd ŷm a gwarth.
5A ddigi Di ’n dragywydd,
O Dduw? pa hyd? pa ham?
A lysg dy lym eiddigedd
Byth bythoedd fel y fflam?
6Na! tywallt ar y bobloedd
Dy lid, nid arnom ni,
Ac ar bob teyrnas euog
Na ’s parcho d’ Enw Di.
7Yn ddifrod gwnaethant Jacob,
Ai drigle ’n anial dir: —
8Ein beiau gynt i’th erbyn
Na chofia, Naf, yn hir:
O brysied, brysied attom
Dy dostur gariad Di;
Dy ras a’th fawr drugaredd
Iachao ’n llesgedd ni
YR AIL RAN9Duw ein hiechyd, rho dy gymmorth,
Gwared ein heneidiau ’n awr;
Bydd dosturiol wrth ein beiau,
Ion, er mwyn dy Enw mawr.
10Pa’m y dywed y cenhedloedd,
“Pa le ’n awr y mae eu Duw?”
O poed iddynt yn ein golwg
Addef mai yr Arglwydd yw!
Gwyped y cenhedloedd weithian
Mai Tydi sy ’n Arglwydd mwy,
Wrth it’ ddïal gwaed dy weision
A dywalltwyd ganddynt hwy: —
11Gwrando gwyn y carcharorion,
Derbyn eu huchenaid brudd;
Rhoed galluog fraich dy gryfder
Blant marwolaeth oll yn rhydd.
12Tâl i fynwes ein cym’dogion,
Tâl yn seithblyg am eu gwaith,
Gwawd eu geiriau cas i’th erbyn,
Dirmyg eu cableddus iaith.
13Molwn ninnau, praidd dy borfa,
Di, ein Harglwydd Dduw di‐lyth;
Canwn glod dy ras galluog
O oes i oes heb dewi byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.