1Yr hwn sy ’n trigo ’n glyd
Yn nirgel nawdd Duw nef,
O hyd yr erys hwn
O dan ei gysgod Ef;
2Fy Nhŵr yw ’r Arglwydd nos a dydd,
A’m holl ymddiried ynddo sydd.
3O faglau ’r heliwr cryf
Y ’th weryd d’ Arglwydd Rhi,
A rhag yr echrys haint
4Cysgoda ’i asgell di:
Dïogel wyt dan adain Nef
Ai wir fydd itti ’n darian gref.
5Ynghanol tywyll nos
I’th ddychryn dim ni bydd;
Nid ofni rhag y saeth
A ehedo ganol dydd,
6Rhag haint y nos na ’i farwol waith,
Na rhag y pla ganolddydd chwaith.
7Wrth d’ ystlys mil a gwymp,
A dengmil wrth dy law;
Ond ni’th niweidia di,
Yn agos it’ ni ddaw;
8Ti a weli ’n unig gospi bai,
A chyfiawn dâl yr anwir rai.
YR AIL RAN9Am itti wneuthur Ion,
Fy noddfa, sef fy Nuw
Goruchaf itti ’n nawdd
A thrigfan it’ i fyw,
10Niweid na phla ni ddaw, na chri,
Yn agos i dy babell di.
11Fe arch dy Geidwad gwiw
I’w lân angylion fyrdd,
Rhag digwydd anffawd it’,
Dy gadw yn dy ffyrdd;
12A’u dwylaw dygant di ’n ddï‐oed,
Rhag it wrth garreg daro ’th droed.
13Ti fethri ’r ddraig a’r asp
A’r cenaw llew â’th draed:
14Yr Ion, sef Duw dy serch,
Yn nodded it’ a gaed:
Am it’ gydnabod Duw dy Ri,
Dyrchefir a gwaredir di.
15Pan alwo arnaf Fi,
Gwrandawaf ar ei lef;
Gwaredaf ef rhag ing
A gogoneddaf ef;
16Digonaf ef â dyddiau hir,
Dangosaf iddo ’m hiechyd gwir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.