1Gwasgeraist ni oddi wrthyt, Ner,
Trwy ddigter llym yn llidio:
Ond er it’ wrthym sorri ’n ffrom,
Oh! dychwel attom etto.
2Clwyfaist y byd â’th ddigter mawr,
A daear lawr sy’n gwaedu;
O Dduw, iachâ hi yn ei braw,
Rhag ofn dy law mae’n crynu.
3Trallodion a chaledi blin
A yrraist i’n cyfarfod;
Rhoist yn dy sorriant wrth ein min
Gwppanau gwin madrondod.
4I’r rhai a’th ofnant, Arglwydd Ner,
Rhoist faner gwir ogonedd;
Dyrchafwn hon yn nydd ein llwydd,
O herwydd y gwirionedd.
5O gwared â’th ddehelaw, Ion,
Dy bobl anwylion eiddil;
A gwrando finnau ar eu rhan,
O’th nefoedd, pan bwy ’n ymbil.
6Yn ei sancteiddrwydd meddai Naf,
“Llonychaf, rhannaf Sichem;
A mesur dyffryn Succoth wnaf,
Fe ’i rhoddaf i Gaersalem.
7“Mae Gilead bell yn eiddof Fi,
Manasseh i Mi sy ’n drigfa;
Ac Ephraim yw fy mhennaf wr,
Am deddfwr ydyw Judah.
8“Golchi fy nhraed gaiff Moab ffrom,
Dros Edom f’ esgid taflaf;
Ac ar Philistia falch yn Ben,
Yn llawen gorfoleddaf.”
9Pwy ’m dwg i’r gaerog ddinas draw?
Pwy yn fy llaw a’i dyry?
Pwy im’ a ddaw ’n arweinydd mad
Hyd Edom wlad i’w threchu?
10Ai nid Tydi, yr Hwn, O Ner,
A’n troist dros amser heibio,
Ac nid ait allan gyd â’n cad
Yn Noddwr mad i’n helpio?
11O moes i ni gynhorthwy ’n awr
Rhag caled awr cyfyngder;
Bydd inni’n darian ac yn dŵr,—
Mae cymmorth gwr yn ofer.
12Gwrolwaith gwych yn Nuw a wnawn,
Ei nerth a gawn i’n diffyn;
Canys Efe mewn munud awr
A fathra i lawr y gelyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.