Lyfr y Psalmau 36 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Anwiredd yr annuwiol sydd

Yn d’weyd i’m calon nos a dydd,

Nad ydyw arswyd Arglwydd nef

Na ’i ofn o flaen ei lygaid ef.

2Gwenhieithia iddo ’i hun nad yw

Ei bechod oll yngolwg Duw,

Nes cael o’r diwedd fesur llawn

Ei anwireddau ’n atgas iawn.

3Anwiredd yw ei eiriau i gyd,

Llawn twyll a ffuant yw ei fryd;

Ac mwyach nid yw ’n arfer chwaith

Gallineb at ddaionus waith.

4Pan ar ei wely ’r nos y bydd

Ei ddyfais ar ryw ddrwg a rydd;

Ac at anwiredd hwylia ’i daith,

Nid ffiaidd gantho bechod chwaith.

YR AIL RAN

5Dy drugareddau, Arglwydd Ner,

Sy ’n cyrraedd uchod hyd y ser;

A’th wirioneddau sydd uwchlaw

Uchelder y cymmylau draw.

6Mae ’th wir fel creigiau cedyrn, Ior,

A’th farnau fel dyfnderau ’r môr;

Dyn ac anifail, Arglwydd Rhi,

Eu Crëwr mawr, a gedwi Di.

7Mwy gwerthfawr yw ’th drugaredd fawr

Na dim a fedd y ddaear lawr;

Am hynny byth hyderwn ni

O dan dy dadol adain Di.

8O’th frasder, Ion, y’n gwneir yn llawn,

O wledd dy Dŷ digonedd cawn;

Ac i’n dïodi llifa’th ras

Yn afon beraidd iawn ei blas.

9Gyd â Thydi, O Arglwydd Dduw,

Mae ffynnon bur y dyfroedd byw;

Ac yn dy lân oleuni clir

Y gwelwn ni oleuni ’n wir.

Y DRYDEDD RAN

10O estyn dy drugaredd rad

I bawb a’th edwyn, Arglwydd mad;

A dangos dy gyfiawnder llawn

I bawb a’r sydd o galon iawn.

11Y balch i’m herbyn byth na ddoed

I sathru i lawr fy mhen â’i droed;

A byth o’m gobaith ynot Ti

Na syfled llaw ’r annuwiol fi.

12Yno gweithredwŷr drwg i lawr

Syrthiasant oll, a’u cwymp oedd fawr;

Ac yno i lawr y gwthiwyd hwy

Na ’s gallant byth gyfodi mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help