1Y Sawl a gredant yn Nuw Ion
Fel mynydd Sïon safant;
A saif heb syflyd byth o’i sail;
I hwnnw ’n ail y byddant.
2Fel Salem lwys a’r bryniau ’n gylch
Fel mur o’i hamgylch bythol;
Felly ein Duw sy ’n gylch di‐lyth
A mur dros byth i’w bobol.
3Ni orphwys ffon yr anwir cas
Ar randir fras yr union,
Rhag iddynt estyn yn eu braw
At ddrwg eu llaw ’n anghyfion.
4I’r rhai daionus, Arglwydd mad,
Anfon dy rad drugaredd;
I’r rhai sy ’n uniawn yn eu nod,
O galon, dod ymgeledd.
5Gyrr Duw y rhai sy ’n troi yn ol
At bechod ffol yr eiltro,
Gyd â gweithredwŷr drwg; a’i hedd
A ddyry ’n wledd i’r eiddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.