1Duw Naf yw Brenhin mawr y byd,
Llawen fo ’r ddaear gron i gyd,
A holl ynysoedd eigion môr:
2Tywyllwch dwfn o’i amgylch sy,
Uniondeb a chyfiawnder fry
Yw trigfod a gorseddfa ’r Ior.
3O flaen ei wedd y flammia ’r tân,
A’i holl elynion llysg yn lân;
4Llewyrcha ’i fellt derfynau ’r byd:
Gwelodd a chrynodd daear lawr,
5A cher bron wyneb y Duw mawr
Fel cŵyr y tawdd y bryniau ’nghyd.
6Mynega ’r nef gyfiawnder Duw,
A gwêl y bobloedd hardded yw,
Mor dra gogoned yn y nef.
7Gwarthrudder gweision duwiau gau,
A fostiant mewn eilunod brau; —
Y duwiau oll, addolwch Ef.
YR AIL RAN8Fe glybu Sïon hyn,
A merched Judah, ’n llon,
O herwydd barnau ’th ras;
9Wyt uwch na ’r ddaear gron:
Wyt uwch nag uchder uwcha ’r byd,
Ym mhell uwch law y duwiau i gyd.
10Chwychwi sy ’n caru ’r Ion,
Casêwch ddrygioni cas;
O law ’r annuwiol ddyn
Y gweryd Ef ei was:
11Hauwyd i’r uniawn lewyrch dydd,
Llawenydd i’r cyfiawnion fydd.
12Chwychwi sy ’n gyfiawn oll,
O byddwch lawen iawn
Yn Nuw a’i ryfedd ras
Foreuddydd a phrydnhawn:
Moliennwch beunydd Arglwydd nef
Wrth goffa ’i bur sancteiddrwydd Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.