Lyfr y Psalmau 102 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw, gwrando lef fy ngweddi,

Ac attat doed fy llais;

2Na chudd dy wyneb rhagof,

Mewn blinder clyw fy nghais:

O gostwng glust dosturiol

O’r nefoedd at fy nghri;

Y dydd y galwyf arnat,

Yn brysur gwrando fi.

3Fy nyddiau a ddarfuant

Fel mwg o fwthyn tlawd;

A’m hesgyrn a boethasant

Fel aelwyd yn fy nghnawd:

4Fy nghalon a darawyd,

Mae fel llysieuyn gwyw;

Anghofiais fwytta ’m bara,

Mor fawr fy mlinder yw!

5Gan lais fy ngwaedd a’m griddfan

Glŷn f’ esgyrn wrth fy nghnawd;

6I’r pelican ’rwy ’n debyg

Mewn rhyw ddifethle tlawd;

Wyf fel pe bawn ddylluan,

Yn unig yn y fro;

7A gwylio ’rwyf fy hunan

Fel gweddw aderyn to.

8Fy ngelyn a’m gwatwara,

Ei orchwyl beunydd yw;

Y rhai a ynfydant wrthyf,

Tyngasant na chawn fyw:

9Bwytteais ludw ’n fara,

A dyma ’m hamlaf bryd;

A’m dïod yn fy nghwppan

Sy ’n ddagrau bron i gyd.

10Oblegid dy ddigllonedd

A’th ddig rwy ’n codi ’m cri;

Ar ol fy nghodi i fynu,

I lawr y ’m teflaist i:

11Fy nyddiau sydd fel cysgod

Yn cilio gyd â’ r dydd;

A minnau fel glaswelltyn

Yn prysur wywo sydd.

YR AIL RAN

12Dy ddyddiau Di ’n dragywydd,

O Arglwydd, sŷ ’n parhâu;

Cenhedlaeth a chenhedlaeth

Sy ’n coffa ’r Enw tau:

13Ti etto a gyfodi

Mewn gras at Sïon gaeth;

Mae dydd ei gras yn gwawrio,

Y pryd pennodol daeth.

14Canys dy weision, Arglwydd,

Sy ’n hoffi ei meini hi;

Tosturio maent wrth weled

Y llwch yn cuddio ’i bri.

15Fel hyn yr holl genhedloedd

A ofnant d’ Enw mawr;

A rhag d’ ogoniant cryna

Brenhinoedd daear lawr.

16Pan adeilado ’r Arglwydd

Ei Sïon oll yn llawn,

Pryd hynny pawb a’i gwelant

Yn ogoneddus iawn.

17Ar weddi ’r gwael mae ’n edrych,

Ni ddïystyra ’u cri;

18A’r bobl a ddêl cânt wybod,

O Dduw, a molant Di.

19O uchder nef y nefoedd

Edrychai ’r Arglwydd mawr,

O gyssegr ei breswylfod

Ar feibion daear lawr;

20I wrando trom uchenaid

Y carcharorion caeth,

Ac i ryddhâu plant angau

O’u tyn gadwynau daeth.

21Fel hyn mynegir Enw

Ein Harglwydd yn ein cân,

A’i foliant byth heb ddiwedd

Ynghafell Salem lân;

22Pan gasgler y tylwythau

O bedwar cwr y byd,

A’r holl deyrnasoedd cyfain

I’w wasanaethu ’nghŷd.

Y DRYDEDD RAN

23Gostyngodd Ion fy nghryfder

Ar ffordd fy mywyd brau;

Byrhaodd ddyddiau ’m heinioes,

Mae ’r olaf yn nesâu. —

24Ynghanol nerth fy nyddiau,

Duw, na ddwg ymaith fi;

O oes i oes heb ddiwedd

Y pery ’th flwyddau Di.

25Yn nechreu bore ’r cynfyd

Ti seiliaist dir a môr;

A’r nefoedd faith a’i lluoedd

Sy ’n waith dy ddwylaw, Ior:

26Darfyddant oll yn fuan,

Fel gwisg heneiddiant hwy;

Fe ’u plygir fel dilledyn

Nad oes a’i gwisgo mwy:

27Ond Ti, yr unrhyw ydwyt,

Tragywydd yn parhâu;

A nifer dy flynyddoedd

Ni ’s dichon byth leihâu:

28A phlant dy weision ufudd

Parhânt fel Ti dy Hun,

A’u had sicrhêir yn wastad

Ger bron y Tri‐yn‐Un.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help