Lyfr y Psalmau 110 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Wrth f’ Arglwydd d’wedodd f’ Arglwydd Ior,

“Eistedd ar fy neheulaw I,

Hyd nes y rhoddwy’ ’n faingc i’th droed

Warrau dy holl elynion Di.”

2Gwialen dy nerth a ddenfyn Duw

O’i Lys ym mynydd Sïon wen;

Ynghanol dy elynion oll

Bydd Di ’n Rheolwr ac yn Ben.

3Dy barod bobl yn nydd dy nerth

A fyddant hardd mewn sanctaidd fri;

Mor aml a’r gwlith o groth y wawr

Yw plant dy enedigaeth Di.

4Tyngodd y digelwyddog Dduw,

Nid edifara ’i lw di‐lyth;

“Wrth nefol urdd Melchisedec

Ti ydwyt yn Offeiriad byth.”

5Yr Arglwydd ar dy ddeheu law

Fydd itti ’n blaid yn nerth ei rym;

Trywana lawer brenhin balch

Yn niwrnod ei ddigllonedd llym.

6Ym mysg cenhedloedd byd y barn,

A meirwon lleinw lawer lle:

A phen hyderus llawer gwlad

I lawr yn glwyfus dwg Efe.

7O’r afon ar y ffordd yr ŷf,

Ei ffordd drwy ’r byd i’r nefoedd wen;

Am hynny ’n ogoneddus byth

Mewn llwyddiant y dyrchafa ’i ben.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help