Lyfr y Psalmau 103 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Bendithia, f’ enaid, Arglwydd nef,

A chwbl o’m mewn bendithied Ef,

A’i Enw sanctaidd yn ei Dŷ:

2F’ enaid, bendithia ’r Ion di‐lŷth,

Ac nac anghofia ’i ddoniau byth

Sy ’n disgyn arnat oddi fry.

3Efe sy ’n maddeu ’th feiau ’n rhad,

Ac i’th holl lesgedd rhydd iachâd,

I’th ddwyn i gaerau ’r nefoedd wen;

4D’ einioes o ddistryw gweryd Ef,

A gras a hael dosturi ’r nef

A rydd yn goron ar dy ben.

5Dy enau a ddiwalla ’i ddawn,

Cei bob daioni ’n lluniaeth llawn;

Fel eryr adnewydda ’th oes.

6Yr Arglwydd cyfiawn, ar eu cais,

I bawb dan orthrech cam a thrais

Uniondeb pur a barn a roes.

YR AIL RAN

7I feibion Israel ar eu hynt

Hyspysodd Ior ei wyrthiau gynt,

A’i ffyrdd i Moses fwyn ei was:

8Trugarog ydyw ’r Arglwydd Dduw,

Hwyrfrydig i ddigofaint yw,

A llawn tosturi, llawn o ras.

9Nid byth yr ymrysona Duw,

Nid byth y ceidw ei lid yn fyw,

Mae ’n hoffach ganddo drugarhâu:

10Oh! nid yn ol ein bai, mewn gwg,

Ac nid yn ol ein buchedd ddrwg

Y telaist inni, Arglwydd mau.

11Cyfuwch a’r nef uwch daear las,

Felly rhagorodd uchder gras

Yr Ion ar bawb a’i hofno ’n wir:

12Mor bell a’r gorllewinol ser

O’r dwyrain, y pellaodd Ner

Oddi wrthym ein camweddau ’n glir.

13Fel tad wrth blant ei serch ei hun,

Felly tosturia ’r Arglwydd Cun

Wrth bawb a’i hofno, ei anwyl rai:

14Fe ŵyr nad ŷm ond pridd a gwỳnt,

Mae ’n cofio fel y’n gwnaeth ni gynt,

Gŵyr nad yw’n defnydd gwael ond clai.

Y DRYDEDD RAN

15Mae dyddiau dyn fel gwellt y llawr,

Fel blod’yn iraidd teg ei wawr

Mewn doldir, y blodeuant hwy;

16Y gwynt â drosto, gwywa ’i bryd,

O’r golwg y diflanna i gyd,

A’i le nid edwyn mo’no mwy.

17-18Ond gras yr Ion, i ni a roes,

A bery byth o oes i oes

Ar bawb trwy barch a’i hofnant Ef;

Caiff pawb a gadwo ’i air yn iawn,

Gan gofio gwneud ei ddeddfau ’n llawn,

A phlant eu plant, gyfiawnder nef.

Y BEDWAREDD RAN

19Yr Arglwydd yn y nef uwch ben

A barottôdd ei orsedd wen

Ar holl gyflawnder tir a môr.

20Chwychwi Angylion nerthol nef,

Sy ’n ufudd wrando ’i eiriau Ef,

Bendigwch byth yr Arglwydd Ior.

21Ei luoedd Ef a’i weision oll,

A wnewch ei ’wyllys yn ddi‐goll,

Bendigwch Ner, eich urddas yw:

22Bendigwch Ef, ei waith i gyd

Yn ei holl deyrnas fawr drwy ’r byd;

F’ enaid, bendiga di dy Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help