1O’th flaen, O Dduw fy iechyd,
Y gwaeddais nos a dydd;
2Doed ger dy fron fy ngweddi,
Rho glust i’m llefain prudd:
3Mae ing a blinder calon
Yn llenwi ’r enaid mau.
A’m heinioes wan sy ’n brysur
I’r beddrod yn nesâu.
4Fel marw y’m cyfrifwyd
Yn ddinerth yn y bedd,
5Yn rhydd ym mysg y meirw,
Fel corphyn gwael ei wedd,
Yn ail i laddedigion
A gawsant farwol glwy’;
Oddi wrth dy law fe ’u torrwyd,
Eu gwedd ni ’s cofir mwy.
6Yn nyfnder pwll y fagddu
Yn isel rhoddaist fi;
7Mae ’th lid yn orthrwm arnaf
A’th donnau ’m blinaist Ti.
8I’r rhai o’r blaen a’m hoffent
Ti ’m gwneist yn ffiaidd iawn;
Mewn carchar y’m gwarchaewyd
Fel allan mwy nad awn.
9Gan gystudd y gofidiodd
Fy llygaid yn fy mhen;
Ond llefais beunydd arnat,
A’m dwylaw tu a’r nen.
10Ai i’r marwolion isod
Y gwnei ryfeddod fawr?
A godant hwy i’th ganmol
O ddistaw lwch y llawr?
11Ai yn y bedd y traethir
Dy drugareddau Di?
Ai yn ardaloedd distryw
Y’th folir, Arglwydd Rhi?
12A wypir mewn tywyllwch
Dy ryfeddodau ’n well?
A gofir dy gyfiawnder
Yngwlâd yr anghof pell?
13Ond arnat Ti y llefais,
A’m dwylaw, Ion, ar daen;
Yn fore glas yr achub
Fy ngweddi brudd dy flaen:
14Pa’m y gwrthodi f’ enaid
Gan guddio ’th rasol wedd?
15Truenus iawn wyf, Arglwydd,
Ar drangc, ar fin y bedd.
’Rwy ’n d’ ofni er yn blentyn,
Petrusais gan fy nghri;
16Aeth ffrwd dy sorriant drosof,
A’th fraw a’m tarfodd i;
17Fel dyfroedd y’m cylchynant
Yn llif ar hyd y dydd;
18Ym mhell rhoist gâr a chyfaill
Oddi wrth fy enaid prudd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.