Lyfr y Psalmau 119 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

ALEPH.

1Pawb a rodiant, O mor ddedwydd,

Ynghyfreithiau glân yr Arglwydd,

2Ac a gadwant ei orch’mynion

Ac a’i ceisiant â’u holl galon.

3Pawb a rodiant yn ei lwybrau,

Ni weithredant anwireddau:

4Ti a erchaist, Arglwydd cyfion,

Gadw ’n ddyfal dy orch’mynion.

5O nad allwn rodio ’n uniawn

Ar hyd ffordd dy ddeddfau cyfiawn!

6Yna byth ni chywilyddiwn

Ar dy gyfraith pan edrychwn.

7Molaf Di âg uniawn galon,

Pan y dysgwy’ ’th farnau cyfion:

8Cadwaf ddeddfau ’th ras yn fanol;

Tithau, O na ad fi ’n hollol!

BETH.

9Pa fodd gwna llangc ei lwybr yn lân?

Wrth gadw at dy eiriau ’n llwyr:

10Mi ’th geisiais; cadw Dithau ’m traed

Rhag troi oddi wrth dy ddeddf ar ŵyr.

11Cuddiais o fewn y galon fau

Dy air, rhag pechu ’n d’ erbyn Di:

12Ti, Arglwydd, bendigedig wyt,

O dysg dy ddeddfau glân i mi.

13Mi draethais â’m gwefusau, Naf,

Farnedigaethau d’ enau gwir:

14Hyfryttach im’ yw ffordd dy air

Na holl oludoedd môr a thir.

15Myfyriaf ar dy gyfraith lân,

A syllaf ar dy ffyrdd di‐lyth:

16Hyfrydwch f’ enaid yw dy air,

A’th ddeddfau nid anghofiaf byth.

GIMEL.

17Wrth dy was, fy Nuw, bydd dirion,

Fel bwyf byw i wneud d’ orch’mynion:

18Dod i’m llygaid pwl dy olau,

Fel y gwelwyf wyrthiau d’ eiriau.

19Yn y byd nid wyf ond crwydryn;

Na chudd rhagof mo ’th orchymyn:

20Drylliwyd f’ enaid gan fy awydd

Am dy farnau, Arglwydd, beunydd.

21Cospaist y melldigaid feilchion

Sydd yn gwyro oddi wrth d’ orch’mynion:

22Tro oddi wrthyf warth a gw’radwydd,

Canys cedwais d’ eiriau, Arglwydd.

23Pan eisteddodd tywysogion

I gondemnio ’m henaid gwirion,

Minnau syniwn ar dy ddeddfau,

24Hedd a chyngor im’ oedd d’ eiriau.

DALETH.

25Glŷn f’ enaid wrth y llwch a’r llawr,

Bywhâ fi ’n ol dy air yn awr:

26Traethais dy ffyrdd, a chlywaist fi;

Dysg dithau, Ner, dy air i mi.

27Ffordd d’ orchymynion dysg i’th was,

Mynegaf finnau wyrthiau ’th ras:

28F’ enaid, gan boen, toddedig yw,

Nertha fi ’n ol dy air, fy Nuw.

29Cymmer oddi wrthyf bob ffordd gau;

Dod im’ o’th ras y gyfraith dau:

30Dewisais, Arglwydd, ffyrdd y gwir,

O’m blaen y rhoddais d’ eiriau clir.

31Mi lynais wrth dy farn ddi‐lyth,

O Dduw, na ’m gwaradwydda byth:

32Ffordd dy gyfreithiau rhedeg wnaf,

Fy nghalon pan ehangech, Naf.

HE.

33Dysg im’, Arglwydd, ffordd dy ddeddfau,

Ynddi rhodiaf hyd yn angau:

34Gair d’ orchymyn, pan ei dysgaf,

A’m holl galon byth fe ’i cadwaf.

35Gwna i mi rodio ffordd d’ orch’mynion,

Maent i mi ’n hyfrydwch calon:

36Gostwng f’ enaid at dy gyfraith,

Ac nid at gybydd‐dra diffaith.

37Oddi wrth wagedd tro fy llygaid;

Yn dy ffyrdd bywhâ fy enaid:

38O sicrhâ d’ addewid immi;

I’th lân ofn yr wy’ ’n ymroddi.

39Tro fy ngwarth ’rwy ’n ofni ymaith;

Da ragorol yw dy gyfraith:

40Chwannog ydwyf i’th orch’mynion;

Gwna fy muchedd, Ior, yn gyfion.

FAU.

41Dy rasol iachawdwriaeth dod

Yn ol dy air i’th ffyddlon was:

42Fel hyn i’m cablydd atteb wnaf

Gobeithiais, Ner, ym marnau ’th ras.

43Na ddwg dy wir o’m genau ’n llwyr,

Mae’m gobaith yn dy air di‐lyth;

44A’th gyfraith bur a’th ddeddfau glân

A gadwaf finnau ’n barchus byth.

45Mewn eang lwybr y rhodia ’m traed

Wrth geisio d’ eiriau Di, fy Naf:

46O flaen brenhinoedd am dy air,

Heb ddim cywilydd, son a wnaf.

47Fy hoffder yw d’ orch’mynion Di,

Fy holl hyfrydwch ydynt hwy:

48Dyrchaf fy nwylaw at d’ air cu,

Ac ynddo bydd fy myfyr mwy.

ZAIN.

49D’ air i’th was teilynga gofio,

Ynddo peraist im’ obeithio;

50Yn fy nghystudd hwn yw ’m cysur,

D’ air roes fywyd yn fy natur.

51Gwatwor mawr wyf i’r rhai beilchion,

Ond ni throis oddi wrth d’ orch’mynion:

52Cofiais, Ion, eriôed dy farnau,

Ymgysurais yn dy ddeddfau.

53Crynais herwydd yr annuwiol

Sydd yn gadu ’th gyfraith rasol:

54Cân im’ oedd dy ddeddfau gwiwglod

Gynt yn nhŷ fy mhererindod.

55Yn y nos y cofiais d’ Enw,

Cofiais d’ eiriau glân i’w cadw:

56Hyn oedd cysur mawr fy nghalon,

Am im’ gadw ’th lân orch’mynion.

CHETH.

57Ti, Arglwydd, wyt yn rhan i mi;

D’wedais y cadwn d’ eiriau Di:

58A’th wyneb yr ymbilia ’th was,

Yn ol dy air dod im’ dy ras.

59Cofiais fy ffyrdd, a throis yn glau

Fy nhraed at eiriau ’r genau tau:

60Nid oedais, ond prysurais i

I gadw gair dy gyfraith Di.

61Mintai ’r rhai drwg f’ yspeilio wnant,

Ond d’ eiriau Di dros gof nid ant:

62Ar hanner nos cyfodi wnaf

I’th foli am dy ddeddfau, Naf.

63I’r rhai a’th ofnant, Arglwydd Rhi,

Cyfaill o galon ydwyf fi:

64Mae ’r ddaear gron o’th ras yn llawn;

Duw, dysg i mi dy ddeddfau ’n iawn.

TETH.

65Gwnaethost, O Dduw, yn dda â’th was,

Yn ol dy ras a’th eiriau:

66Dysg immi dy wybodaeth iawn

Credais yn llawn dy ddeddfau.

67Gwyraswn cyn fy nghystudd, Naf,

Ond weithian cadwaf d’ eiriau:

68Daionus iawn a da wyt Ti;

O dysg i mi dy ddeddfau.

69Clyttiodd y beilchion gelwydd gau

I’m herbyn; minnau ’n ffyddlon

Er hyn a gadwaf d’ eiriau Di,

Fy Nuw, âg egni calon.

70Cyn frased yw eu calon gas

A’r bloneg bras o’i deutu;

A minnau ymddigrifo wnaf

Ynghyfraith Naf, a’i charu.

71Fy nghystudd blin a’m dysgai ’n glau

I gadw ’th ddeddfau purlan:

72Gwell immi eiriau ’th ras, a’th ffyrdd

Nag aur yn fyrdd ac arian.

IOD.

73Dy law a’m gwnaeth yn fyw i fod,

Par immi wybod d’ eiriau,

A dysgu cadw ’n ffyddlon byth

Dy air di‐lyth a’th ddeddfau.

74Y rhai sy ’n d’ ofni, fy ngwel’d cânt,

A llawenychant beunydd;

Oblegid yn dy eiriau Di

Mae ’m gobaith i ’n dragywydd.

75Mi wn mai cyfiawn yw’th ddeddf, Ion,

Mai ’n ffyddlon y’m cystuddiaist:

76Boed immi gysur yn dy ras,

Fel hyn i’th was addewaist.

77O deued, fel y byddwyf byw,

Dy ras, fy Nuw, i’m helpu;

O herwydd bod dy gyfraith bur

Yn gysur i’m diddanu.

78Gwarthrudder oll y beilchion cas,

Gwnant gam â ’th was heb achos:

Myfyriaf arnat: hyn a bair

Im’ gadw ’th air heb aros.

79Y rhai a adwaenant d’ eiriau Di,

Troer attaf fi eu sylw,

80F’ enaid fo ’n berffaith yn d’ air, Ner,

Fel na ’s gwarthrudder f’ enw.

CAPH.

81F’ enaid am dy ras diffygiodd,

Am d’ addewid tra disgwyliodd:

82Am dy air y palla ’m llygaid

O pa bryd diddeni ’m henaid?

83Wyf fel costrel wedi dryllio

Gan y mwg sydd yn ei chrino;

Ond ynghanol fy mlinderau

Nid anghofiais mo dy ddeddfau.

84Beth yw cyfrif, beth yw nifer

Dyddiau ’th was, a byrdra ’i amser?

A pha bryd y teli eu haeddiant

I’r rhai ’n greulon a’m herlidiant.

85Cloddiai ’r beilchion immi byllau;

Nid yw hynny ’n ol dy ddeddfau:

86Moes im’ nerth dy wir addewid,

Yn ddïachos maent yn f’ erlid.

87Braidd nad ydynt wedi ’m difa

Ar y ddaear yn eu traha:

Minnau d’ eiriau ni’s gadewais,

Dy lân ddeddfau nid anghofiais.

88O bywhâ fy enaid, Arglwydd,

Yn dy ras a’th drugarowgrwydd:

Felly cadwaf byth yn ffyddlon

Dystiolaethau d’ enau cyfion.

LAMED.

89Saif dy air a’th sicr gyfammod,

Arglwydd, yn y nefoedd uchod:

90Saif y ddaear ar ei seiliau,

Ond saif d’ air yn hwy na hithau.

91Wrth dy farnau heddyw safant,

A phob peth a’th wasanaethant:

92Oni bai mai ’th ddeddf yw ’m hoffder,

Diffygiaswn gan gyfyngder.

93Nid anghofiaf byth d’ orch’mynion,

Trwyddynt y bywhê’ist fy nghalon:

94Eiddof ydwyt, cadw ’th blentyn,

Canys ceisiais dy orchymyn.

95Ceisio ’m lladd wnai ’r anwir ddynion,

Ond ystyriaf fi d’ orch’mynion.

96Diwedd sydd ar bob perffeithrwydd,

Ond ar eang ddeddf yr Arglwydd.

MEM.

97Mor gu yw ’th gyfraith gennyf, Naf,

Bob dydd myfyriaf ynddi:

98Doethach na ’m gelyn fyddaf fi

Trwy hon, os Ti a’m dysgi.

99Deallais fwy trwy addysg hon

Na ’m holl athrawon parod,

Oblegid dy dystiolaeth sydd

Im’ beunydd yn fyfyrdod.

100Deallais fwy trwy gadw hon

Na ’r dynion sy ’n henuriaid;

101Ac er mwyn gwrando ar ei llais,

Rhag drwg atteliais f’ enaid.

102Oddi wrth dy farnau, Arglwydd Rhi,

Y rhai i mi a roddaist,

Yn draws o’m bodd ni chiliais i,

O herwydd Ti a’m dysgaist.

103Melusach yw dy air na’r mel,

Na ’r diliau mel i’m genau:

104A thrwyddo pwyllais, gan gasâu

Pob anwir a gau lwybrau.

NUN.

105Llusern i’m traed yw d’ eiriau Di,

A llewyrch i fy llwybrau:

106Tyngais, a safaf atto ’n llawn,

Y cadwn d’ uniawn farnau.

107Cystudd a gefais, poen a phla,

Bywhâ fi ’n ol dy eiriau:

108Derbyn fy nïolch gwirfodd, Ion,

Dysg im’ dy gyfion farnau.

109Beunydd mae f’ enaid yn fy llaw,

Ond nid wy ’n gadaw ’th eiriau:

110Er maglau ’r anwir bradol gais

Ni ’s gŵyrais o dy ddeddfau:

111Fy rhan dragywydd ydyw d’ air,

I’m calon pair lawenydd:

112Gostyngais f’ enaid at dy waith,

Ac at dy gyfraith beunydd.

SAMECH.

113Caseais bob meddyliau gau,

A’r gyfraith dau a hoffais:

114Fy lloches wyt, a’m tarian gref;

Yngair Duw nef gobeithiais.

115Chwi ’r anwir, ewch oddi wrthyf fi,

’Rwy ’n ofni Duw a’i gyfraith:

116Cynnal fi ’n fyw â’th air di‐nam,

Ac na warthrudda ’m gobaith.

117O cynnal fi, a dïangc wnaf;

Ar d’ air edrychaf, Arglwydd:

118Pawb fo ’n drofâus a sathra ’th draed,

Llawn dichell caed eu celwydd.

119Pawb anwir yn y tir sy ’n bod,

Fel sorod bwriaist ymaith:

Am hynny ’r hoffais, Arglwydd Rhi,

Dy ddeddfau Di a’th gyfraith.

120Fy nghnawd gan d’ arswyd, Arglwydd da,

A’m calon a ddychrynodd;

A’m henaid gwan rhag barn dy ddig

Yn dra pharchedig ofnodd.

AIN.

121-122Barn a chyfiawnder gwnaethum i,

Bydd drosof i fechnïo:

Fy nhirion Ior, na ad dy was

I’r beilchion cas i’w dreisio.

123Pallodd fy nghalon am ras Ion,

Ac am ei gyfion eiriau:

124Gwna immi ’n ol dy ras, fy Rhi,

A dysg i mi dy ddeddfau.

125Rho ddeall gwir i’th was sy ’n ddwl,

I wybod meddwl d’ eiriau:

126Yr amser itti weithio yw,

Torrasant, Dduw, dy ddeddfau.

127D’ orchymyn Di yn fwy nag aur,

Yn fwy nag aur a hoffais;

Yn fwy nag aur puredig, coeth,

Dy eiriau doeth a gerais.

128Am hyn d’ orchymyn cywir iawn

Yn uniawn a gyfrifais

Ym mhob rhyw beth; a ffyrdd y gau

A’u llwybrau a gaseais.

PE.

129Rhyfeddol ydyw d’ air di‐nam,

Am hyn fe ’i cadwa ’m calon:

130Agoriad d’ air goleuni a fydd

A deall rhydd i’r gwirion.

131Agorais i fy ngenau ’n awr

Am d’ air â mawr ddyhead;

Canys awyddus oedd dy was

Am eiriau gras dy gariad.

132O edrych arnaf yn dy ras,

A dod i’th was dy gariad:

Wrth bawb a’th garant Di, fy Nuw,

Tosturio yw f’ arferiad.

133Dim drwg i’m trechu byth na boed,

Hwylia fy nhroed yn d’ eiriau:

134O gwared fi rhag trais, fy Naf,

Ac felly gwnaf dy ddeddfau.

135Llewyrcha d’ wyneb arnaf fi,

A dysg i mi dy ddeddfau:

136Afon o ddwfr o’m llygaid daw

Am iddynt adaw d’ eiriau.

TSADI.

137Cyfiawn wyt Ti, O Arglwydd Dduw,

Ac uniawn yw dy farnau:

138Cyfiawnder a ffyddlondeb yw

Tystiolaeth Duw a’i eiriau.

139Fy zel a’m hysodd, am i’m cas

Anghofio ’th ras a’i fathru:

140Purwyd yn fawr d’ ymadrodd mwyn,

Am hynny ’rwy ’n ei garu.

141Ni’s gedais mo’th orch’mynion hael,

Er mai un gwael y’m gelwir:

142D’ unionder sy gyfiawnder byth,

A’th air di‐lyth sydd eirwir.

143Mewn adfyd a chystuddiau, Ner,

Dy air yw ’m hoffder pennaf:

144Cyfiawnder d’ eiriau bythol yw;

O’u deall, byw a fyddaf.

COPH.

145Llefais â’m calon; erglyw fi;

Dy ddeddfau Di a gadwaf:

146Achub fi, Ner, a chlyw fy nghri,

Yn d’ eiriau Di y rhodiaf.

147Gwaeddais, fy Nuw, cyn codi ’r wawr,

Wrth d’ air yn fawr disgwyliais:

148Yn oriau ’r nos at d’ eiriau Di

Mewn myfyr mi ddeffroais.

149O gwrando ’m llef yn ol dy ras,

Bywhâ dy was yn d’ eiriau:

150Ysgeler wŷr doent arnaf fi

Gan d’ adaw Di a’th farnau.

151Tithau, fy Nuw, sy ’n agos iawn,

A’th air sy ’n llawn gwirionedd:

152Er ’s talm gwn seilio ’th air di‐lyth

O’r dechreu byth heb ddiwedd.

RESH.

153O gwel fy mhoen, a gwared fi,

Dy gyfraith ni anghofiaf:

154Gwared fi, dadleu ’r achos mau,

A byw yn d’ eiriau fyddaf.

155Oddi wrth y didduw pell yw ’th ras,

Ni pharchant urddas d’ eiriau:

156Aml yw dy drugareddau Di,

Bywhâ fi ’n ol dy farnau.

157Llawer sy ’n erlid f’ enaid syn,

Ni throis er hyn o’th farnau:

158Gresynais, Ion, wrth weled llu

Y rhai sy ’n mathru d’ eiriau.

159O gwel fy mod yn hoffi ’th wir,

Bywhâ cyn hir fi ’n rasol:

160O’r dechreu gwir yw’r geiriau tau,

A phery ’th farnau bythol.

SCHIN.

161Erlidiwyd, Arglwydd, f’ enaid gwan

Heb achos gan d’wysogion:

Nid ofnaf rhagddynt chwaith er hyn,

Wrth d’ air y cryn fy nghalon.

162Rwy’n llawen am dy eiriau doeth,

Fel pe cawn gyfoeth lawer:

163Ffieiddiais bob rhyw gelwydd gau,

A’r deddfau tau yw ’m hoffder.

164Seithwaith bob dydd y’th folaf, Ner,

Am iawnder barnau ’th enau:

165A heddwch mawr heb dramgwydd cânt

Y rhai a garant d’ eiriau.

166Wrth d’ air a’th iachawdwriaeth Di

Disgwyliais i ’n feunyddiol:

A gwnaethum âg ufuddgar fron

Dy orchymynion grasol.

167Cadwodd fy enaid d’ eiriau Di,

Hoff gennyf fi dy ddeddfau:

168Dy ffyrdd sy ger fy mron, fy Naf,

Am hynny cadwaf d’ eiriau.

TAU.

169Nesâed fy ngwaedd o’th flaen heb ball,

Moes immi ddeall d’ eiriau:

170Fy ngweddi daer doed attat Ti,

A gwared fi â’th farnau.

171Fy nhafod cân dy fawl yn ffraeth,

Pan gaf wybodaeth d’ eiriau:

172Datgana ’m genau d’ air, fy Nuw,

Cyfiawnder yw dy ddeddfau.

173Bydded dy law i’m cymmorth, Ner,

Dy eiriau per dewisais:

174Hiraethais am yr iechyd tau,

Yn d’ eiriau ’r ymhyfrydais.

175Yn f’ enaid eiddil, Ior, o hyd

Dod fywyd i’th foliannu:

A bydded grymmus farnau ’r nef

Yn gymmorth gref i’m nerthu.

176Fel dafad bûm ar goll yn hir,

Ym mhell o dir dy ddeddfau:

O cais dy was yn ol, O cais,

Am nad anghofiais d’ eiriau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help