1Duw, dod i’r Brenhin farnau ’th glod,
Dy wir i Fab y Brenhin dod;
2Fe farn Efe dy bobl yn iawn,
Dy druain mewn uniondeb llawn.
3Mynyddau hardd a bryniau ’r tir
Dygant i’r bobloedd heddwch gwir;
4Fe farna druain bobl y wlad,
I blant y tlodion mae yn Dad.
Gweryd y rheidus yn ei ras,
A dryllia ’r traws orthrymmydd cas:
5O oes i oes yr ofnant Ef
Tra paro haul a lloer y nef.
6Fel gwlith ar wlân y daw Efe
I lawr yn fendith hael o’r ne’;
Fel cawod o ireiddiol wlaw
Yn mwydo ’r ddaear grin, y daw.
7Blodeua ’r cyfiawn yn ei ddydd,
Amlder o hedd tra lloer a fydd:
8Rheola o fôr i fôr i gyd,
O’r afon hyd derfynau ’r byd.
YR AIL RAN9Trigolion yr anialwch cras
Ymgrymmu wnant ger bron ei ras;
A gwelir ei gaseion trwch
Yn isel oll yn llyfu ’r llwch.
10Brenhinodd Tarsis rhônt o’u bodd,
A’r pell ynysoedd, iddo rodd;
Arabia boeth a Seba ’nghyd
Offrymmant eu trysorau drud.
11Daw holl frenhinoedd daear gron
I blygu ’n barchus ger ei fron;
Daw ’n ufudd i’w wasanaeth Ef
Bobloedd pob gwlad o dan y nef.
12-13Canys Efe a wrendy lais
Y tlawd — fe’i gweryd ef rhag trais;
Gweryd y rheidus gwael a gwan
A’r ni bo noddwr ar ei ran.
Ei ffafr a rydd i’r tlawd a’r gwael,
I’r truain rhanna ’i roddion hael;
Gwaedd yr anghenog rai a glyw,
Achubydd eu heneidiau yw.
14Achuba ’u henaid, ar eu cais,
Oddi wrth ormesol dwyll a thrais;
A gwerthfawr yn ei olwg mwy
A fydd eu gwaedd a’u heinioes hwy.
Y DRYDEDD RAN15Byw fydd, a chaiff o Seba boeth
Offrymmau gwirfodd o aur coeth;
Ymbiliant drosto ar Dduw nef,
A beunydd y clodforir Ef.
16Bydd dyrnaid bach o ŷd yn awr
Yn ffrwytho ’m mhen mynyddoedd mawr;
Ysgydwa ’i gnwd yn donnau fyrdd
Fel pennau cedrwŷdd Liban wyrdd.
Blodeua ’r ddinas gan ei ras
Fel irdwf lysiau daear las;
17A phery ei Enw Ef a’i ddawn
Cyhyd a thrag’wyddoldeb llawn.
Fe saif ei Enw clodfawr Ef
Tra safo haul yn uchder nef;
Bendithir ynddo lwythau ’r byd,
A’i glod a seinia ’r bobl i gyd.
18Bendigaid fyddo ’r Arglwydd Dduw,
Duw Israel, Arglwydd Jacob yw;
Ei waith ei Hun a’i allu mawr
Yw rhyfeddodau nef a llawr.
19Gogoned Enw Duw di‐lyth
A fyddo ’n fendigedig byth;
Clod a gogoniant mawr ei ras
Fo ’n toi cwmpasoedd daear las.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.