1Clywch yr addysg hon, genhedloedd,
A gwrandêwch, holl bobloedd byd;
2Doed yr isel a’r bonheddig,
Goludog a thylawd ynghyd:
3Traetha ’m genau ddoeth athrawiaeth
O fyfyrdod dwfn fy mron;
4Traethaf ddammeg gyd â’r delyn,
Gwyra ’m clust i wrandaw hon.
YR AIL RAN5Pa’m yr ofna f’ enaid gwirion
Pan ddêl arno flinder du,
Pan ddêl bradwŷr traws o’m hamgylch
I’m disodli i lawr yn llu?
6Ar eu cyfoeth rhônt eu hyder,
Bostiant yn eu golud mawr,
7Er na’s gweryd neb o honynt
Byth mo ’i frawd am funud awr;
Am na’s gallant dalu drosto
Bris nac iawn i’r Duw di‐lyth;
8(Drud yw gwerth a phris yr enaid,
Pery ’n ddrud ei bridwerth byth;)
Nid oes iawn na phris na phryniad
A geidw ddyn rhag angau trwch,
9Fel na welo lygredigaeth
Yn nhrigfannau ’r pridd a’r llwch.
10Doeth ac ynfyd heb ragoriaeth,
Meirw y maent, y call a’r ffol;
Ac i eraill y gadawant
Swm eu cyfoeth ar eu hol:
11Tybiant y parhâ ’n dragywydd
Eu neuaddau teg bob un;
Tiroedd llydain eu treftadaeth
Henwant ar eu henw ’u hun.
12Etto dyn mewn bri nid erys,
Gwywa ’i degwch ef a’i dŷ;
Syrth o’i fawredd, fel anifail,
I briddellau ’r ddaear ddu.
13Hon yw ynfyd ffordd eu rhodiad,
Hynt eu buchedd yn y byd;
Etto boddlon yw eu heppil
Ffol i’w geiriau hwynt i gyd.
14Megis praidd wrth ochrau ’u gilydd
Y’u gosodir yn y bedd;
Angau du a’u bwytty ’n ymborth,
Angau du a’u caiff yn wledd.
Y rhai cyfiawn yn y bore
Llywodraethant arnynt hwy;
Derfydd yn y pridd eu tegwch,
Heb na thŷ na chartref mwy.
Y DRYDEDD RAN15O feddiant uffern Duw i’m plaid
A weryd f’ enaid egwan;
O waelod bedd, y pridd, a’r gro,
Fe ’m derbyn atto ’i Hunan.
16Er cyfoethogi neb rhyw ddyn,
Er bod ei dŷ ’n ehangach,
A’i nen yn uwch — nac ofna di,
Nid yw ei fri ond sothach.
17Dim gyd âg ef ni’s dwg efe
Pan fyddo ’i oes e’ ’n darfod;
Ni ddilyn ei ogoniant mawr
Mo hono i lawr y beddrod.
18Bendigo ’i enaid gynt a wnaeth,
Cyn teimlo ’r saeth angeuol;
Bydd dithau dda i ti dy hun,
A phawb yn un a’th ganmol.
19Dygir ef gan yr angau trwch
I’r bedd at lwch ei dadau;
Ac ni chaiff weled îs y llawr
Na dydd, na gwawr, na golau.
20Dyn mewn urddasol fri di‐wall,
Heb fuchedd gall synhwyrol,
Er uched yw, nid yw ond ail
I’r gwael anifail trengol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.