Lyfr y Psalmau 77 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1A’m llef ar Dduw y gwaeddais,

A thaer ar Dduw fu ’m llef;

2Yn nydd fy ing y ’i ceisiais,

A chlybu ’m llais o’r nef:

Lliw nos fy mriw a redodd,

Dïangodd melus hûn;

Ac ni ’s goddefai f’ enaid

Ddiddanwch neb rhyw ddyn.

3Er cofio ’m Harglwydd grasol,

Cawn drallod fyth yn rhan;

Mewn ing a therfysg yspryd

Fe gwynai f’ enaid gwan:

4’Rwyt Ti ’n fy nal yn neffro,

Gan syndod wyf yn fud:

5Ystyriais yr hen oesoedd,

Blynyddoedd bore ’r byd.

6Fy nghân y nos a gofiaf

Am dy drugaredd lwys;

Ymddiddan ’rwyf â’m calon,

A’m hyspryd chwilia ’n ddwys:

7A fwrw f’ Arglwydd grasol

Fy enaid heibio ’n hwy?

Ai ni bydd Duw mor dirion

A mi ’n gymmodlon mwy?

8A ddarfu ei drugaredd?

A balla ’i ras Ef byth?

Ai nid yw Gair addewid

Yr Ior yn Air di‐lyth?

9A all fy Nuw tosturiol

Anghofio trugarhâu?

A gauwyd gras y nefoedd

Mewn sorriant i barhâu?

YR AIL RAN

10Na! dywedais, “Dyma ’m gwendid,

Gwendid anghrediniaeth yw;” —

Cofiaf etto hen flynyddoedd

Dehau law ’r goruchaf Dduw:

11Cofiaf dy weithredoedd, Arglwydd,

D’ wyrthiau gynt a gofia ’th was;

12Ar dy waith y dwys fyfyriaf,

Soniaf byth am wyrthiau ’th ras.

13Duw! dy ffordd sydd yn y Cyssegr:

Pa dduw fel ein Harglwydd ni?

14Ti sy ’n gwneuthur rhyfeddodau;

Gŵyr y bobl dy nerthoedd Di:

15A llaw gadarn braich dy gryfder

Yr achubaist ar eu hynt

Feibion Jacob a’i fab Joseph,

Plant dy hen Israeliaid gynt.

Y DRYDEDD RAN

16Y dyfroedd a’th ganfuant, Ior,

Dwfn eigion môr a’th welodd;

Ofnasant rhag yr wyneb tau,

Dy ddychryn a’u cythryblodd.

17Syrthiai ’r cymmylau ’n ddwfr i lawr,

Ymdoddai ’r fawr ffurfafen;

Ehedai ’th gyflym saethau ’n glau,

Godyrddai caerau ’r wybren.

18Twrf taran aruthr groch dy lef

O gylch y nef a ruai;

Melltennai ’r tân drwy nef a llawr,

A’r ddaear fawr a grynai.

19Dy ffyrdd sydd yn yr eigion, Ior,

Yn nyfnder môr mae ’th lwybrau;

Ond er olrheinio ’th ffyrdd ar d’ ol,

Ni ’s gwelir ôl dy gamrau.

20Dy bobl arweiniaist gynt i’w gwlad,

Yn Fugail mad i’w porthi;

A Moses fwyn ac Aaron caid

Yn is‐fugeiliaid itti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help