1Molwch yr Ior, chwi fawr a mân,
Seiniwch i’w Enw beriaidd gân;
O herwydd hardd a hyfryd yw
A gweddus datgan mawl ein Duw.
2Mae ’n adeiladu Salem fry,
Israel a gasgl yn ol i’w Dŷ;
3Rhydd falm i wella ’r galon friw,
A rhwymwr ei doluriau yw.
4Mae ’n rhifo rhif y ser ynghŷd,
Fe ’u geilw wrth eu henwau i gyd;
5Mawr yw ein Duw, a mawr ei rym,
Aneirif yw ei ddeall llym.
6Y llariaidd cyfyd ein Duw mawr,
A dwg y didduw hyd y llawr;
7Dïolchus genwch i Dduw Ner,
Cenwch i Dduw â’r delyn ber.
8Y nef uwch ben a doa ’i law
A chwmmwl i ddarparu ’r gwlaw,
I’w hidlo ar y ddaear gron
Nes byddo ’i bryniau ’n dirf a llon.
9Fe rydd i anifeiliaid byd
Eu bwyd a’u porthiant yn ei bryd;
Mae ’n porthi cywion bach y brain,
Ni ddïystyra gri y rhai ’n.
10Nid hyfryd ganddo gryfder march,
Nid y cyflym‐droed gaiff ei barch;
11A geisio ’i ras yn ofn Duw ne’,
Hwnnw yw ’r dyn a gâr Efe.
YR AIL RAN12Mola di ’r Ior, Jerusalem,
Sïon, molianna di dy Dduw;
13Barrau dy byth yn gryf a wnaeth,
Rhydd ar dy blant ei fendith wiw.
14Rhydd amlder heddwch yn dy fro,
Diwalla di â brasder grawn;
15Gyr ei orchymyn ar ein tir,
A’i air a red yn fuan iawn.
16Fe rydd fel gwlan ei eira i lawr,
Fe daena rew fel llwch o’r nef;
17Fe fwrw ’i ia ’n dammeidiau fyrdd,
Pwy erys gan ei oerni Ef?
18Enfyn drachefn o’r nef ei air,
A thawdd yn llyn y caled ia;
A’i dyner wynt anadla ’n awr,
A thoddi ’r rhew yn ffrwd a wna.
19Mynega ’i air i Jacob lân,
Ei ddeddf a’i farn i Israel wiw;
20Ni wnaeth fel hyn âg eraill bobl,
Nid adnabuant farnau Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.