1A’m holl galon y’th glodforaf,
Ac yngwŷdd y duwiau ’th folaf;
2Tu a’th Deml a’th Dŷ sancteiddiol
Yr ymgrymmaf, Ior, i’th ganmol.
Am dy ras a’th wir y’th folaf;
Uwch pob dim mae ’th air yn bennaf:
3Pan y llefais, Ti ’m gwrandewaist,
Nerth dy ras yn f’ enaid rhoddaist.
4Daw brenhinoedd byd i’th ganmol,
Pan y clywant d’ eiriau grasol;
5Am dy ffyddlon ffyrdd y canant,
Canys dirfawr yw ’th ogoniant.
6Er bod Ior goruwch nefolion,
Etto gwel yr isel galon;
Ac o bell y cenfydd hefyd
Galon falch y dyn uchelfryd.
7Pe ynghanol ing a thristyd,
Ti fait, Arglwydd, im’ yn fywyd;
Nerth dy law a geid i’m diffyn
Rhag cynddaredd llid fy ngelyn.
8Gair ei addewidion cywir
Immi gan fy Nuw cyflawnir:
Dy ras, Arglwydd, byth sy ’n para;
Gwaith dy ddwylaw na ddirmyga.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.