Lyfr y Psalmau 15 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Pwy, Arglwydd, a drig yn dy babell,

Pwy breswyl ynghafell dy Dŷ;

Ym mynydd dy Sïon sydd isod,

Ac yn dy breswylfod sy fry?

2Y sawl sydd yn berffaith ei rodiad,

A’i gyson ymddygiad yn dda;

A ddywed y gwir yn ei galon,

A’r hyn sydd yn union a wna.

3Nid ethryd â thafod celwyddog

Mo ’i wirion gymmydog na’i waith;

A’i glustiau gan arall ni dderbyn

Ddim enllib i’w erbyn ychwaith;

4Yr hwn a ffieiddia ’n ddirmygus

Y rhai sy ’n ddrygionus i gyd;

Gan barchu pob dyn sydd yn ofnwr

Creawdwr a Barnwr y byd.

Os tyngodd ef unwaith â’i enau,

Fe saif at ei eiriau bob un,

Er bod ei lw ehud yn niwaid

A cholled i’w enaid ei hun;

5Nid arfer usuriaeth; ni chymmer

Byth wobr am roi chwer’der neu glwy’

I’r gwirion. A wnel hyn yn gywir,

Yn wir ni symmudir ef mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help