1Fel y brefa ’r hydd a’r carw
Am yr afon loyw las,
Felly f’ enaid innau, Arglwydd,
Sydd yn llefain am dy ras.
Mawr yw hiraeth
F’ yspryd am gymdeithas Duw.
2Syched blin sydd ar fy nghalon
Am gymdeithas y Duw byw;
O na chai ’m hiraethus enaid
Byth fod gyd â ’m Harglwydd Dduw!
O pa ddiwrnod
Caf ymddangos ger dy fron?
3Wylo ’r dagrau ydyw f’ ymborth,
Ar fy nagrau ’r wyf yn byw:
Hwythau ’n gofyn immi beunydd,
“Pa le weithian mae dy Dduw?”
Arglwydd tyred
I ddiddanu f’ enaid prudd.
4Wrth fyfyrio ’n ddwys ar hynny,
Toddai f’ enaid yn fy mron;
Canys byddwn gynt yn rhodio
Gyd â’r Saint i Dŷ Dduw ’n llon,
Mewn gorfoledd,
Megis tyrfa ’n cadw gwyl.
5F’ enaid ofnog, pa ’m y crymmi
Mor iselaidd, gwael a gwyw?
Paid â’th derfysg, paid â’th ochain,
Dyro d’ obaith ar dy Dduw:
Molaf etto
Iachawdwriaeth bur ei wedd.
YR AIL RAN6Er mor isel ydyw f’ enaid,
Cofiaf Di, fy Arglwydd mawr,
Yma ’n nhir yr hen Iorddonen,
Lle ’rwy ’n gorfod crwydro ’n awr;
O fryn Misar
Cofiaf Hermon, mynydd Duw.
7Geilw dyfnder dig ar ddyfnder;
Rhua ’u twrf o’m hamgylch i;
Gan ryferthwy dy lifeiriant,
Adlais dy bistylloedd Di:
Llif dy donnau
Oll a dorrodd dros fy mhen.
8Archa ’m Duw ei rad drugaredd
Immi ’n rhan yngoleu dydd;
A’i beroriaeth nefol hyfryd
Gyd â mi liw nos a fydd:
Gweddi f’ enaid
Sydd ar Dduw fy mywyd cu.
9Wrth fy Nuw a’m Craig dywedaf,
“Pa’m y llwyr anghofi ’th was?
Pa’m y rhodiaf mewn wylofain
Dan ormesol drais fy nghas?”
Arglwydd grasol,
Nac anghofia ’m henaid mwy.
10Gwawd a dirmyg fy ngelynion,
Cledd yn gwanu f’ esgyrn yw,
Tra dywedant wrthyf beunydd,
“Pa le weithian mae dy Dduw?”
Tyred, Arglwydd,
I ddiddanu ’m henaid prudd.
11F’ enaid ofnog, pa’m y crymmi
Mor iselaidd, gwael a gwyw?
Paid â’th derfysg, paid â’th ochain,
Dyro d’ obaith ar dy Dduw:
Molaf etto
Iachawdwriaeth bur ei wedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.