1Duw ’r dïal, ymddisgleiria ’n llym,
2Ymddyrcha, Farnwr mawr y byd;
Duw’r dïal, ymddisgleiria ’n awr,
I’r beilchion tâl eu gwobr i gyd.
3Pa hyd y caiff y didduw, Ior,
Pa hyd y cânt orfoledd llon,
4Gan siarad geiriau celyd balch,
Ac ymfawrygu ger dy fron?
5Dy bobl a ddrylliant, Arglwydd Dduw,
Cystuddiant d’ etifeddiaeth brid;
6Y weddw a’r dïeithr lladd a wnant,
A’r tlawd ymddifad yn eu llid.
7Dywedant hefyd, “Ni wêl Ion,
Duw Jacob nid ystyria ni;”
8Ystyriwch, ffyliaid! Oh pa bryd,
Annoethion, y deallwch chwi?
9Oni chlyw ’r Ion, yr Hwn a roes
Y glust i ddynion yn ei lle?
Yr Hwn a luniodd lygad dyn
I weled, oni wêl Efe?
10Ai ni ’s gall Cospwr pobloedd byd
Geryddu bai, ac Yntau ’n Dduw?
Ac oni ŵyr Dysgawdwr dyn? —
11Gŵyr feddwl dyn, mai ofer yw.
12Gwỳn fyd, Ior, a geryddech Di,
I’w ddysgu ynghyfreithiau ’th ras;
13Llonydd a gaiff yn nyddiau drwg,
Nes cloddio ffos i’r anwir cas.
14Ei etifeddiaeth lân ei Hun
A’i bobl ni ’s gwrthyd Arglwydd nef:
15Dychwel Cyfiawnder pur i farn,
A’i uniawn gwmni gyd âg ef.
16Pwy, pwy a gyfyd gyd â mi
Yn erbyn y drygionus rai?
A phwy a saif yn blaid o’m tu
Yn erbyn gweithwŷr trais a bai?
17Oni buasai i Dduw Ion
Fod immi ’n nerth a chymmorth clau,
Ym mro distawrwydd angau du
Braidd na thrigasai ’r enaid mau.
18Pan waeddais, “Llithrodd, Ior, fy nhroed,”
Cynhaliwyd f’ enaid gan dy ras;
19Yn amledd fy meddyliau trist
Dy gysur Di sy ’n llonni ’th was.
20Arglwydd, a gymdeithasi Di
A gorsedd draws anwiredd gau,
Sy ’n llunio brad a thrais a cham
Yn gyfraith gadarn i barhâu?
21I dreisio ’r cyfiawn dônt yn llu,
Yn euog barnant wirion waed;
22Ond llechaf dan amddiffyn Duw,
Mae ’n nawdd a chraig o dan fy nhraed.
23Dychwel Efe, trwy gyfiawn farn,
Eu camwedd ar eu pen eu hun;
Ac yn nrygioni eu hamcan traws
Ymaith ein Duw a’u tyr bob un.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.