Lyfr y Psalmau 78 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Gwrando, fy mhobl, y gyfraith fau,

Fy ngeiriau ’n glau ystyriwch;

At eiriau doeth fy ngenau ’n awr

Eich clust i lawr gogwyddwch.

2Mewn addysg o ddïareb glir

Fy ngenau gwir agoraf:

Damhegion o hen oesau ’r byd,

O fore ’r cynfyd, traethaf.

3Hyspyswyd hwynt o oes i oes

In’ eisoes gan ein tadau;

4A thraethwn ninnau hwy ’r oes hon

I’n plant a’n hwyrion ninnau.

Moliant a nerth yr Arglwydd Ion

Yn awr i’n meibion traethwn;

Rhyfeddol waith ei rymmus law

I’r oes a ddaw mynegwn.

5Yn Jacob lân sicrhaodd Ef

Dystiolaeth gref sancteiddiol;

Yn Israel rhoes i fawr a mân

Ei gyfraith lân yn rheol.

Archodd i’r tadau yn ddi‐goll

I’r meibion oll eu dysgu;

6Ac i’w plant hwythau yn ddi‐gêl

I’r oes a ddêl eu traethu.

7Fel ar yr Arglwydd Dduw di‐lyth

Y rhoddent byth eu gobaith,

Gan gadw ’i ddeddfau heb osgôi,

Na byth anghofio ’i fawrwaith:

8Ac na bâent fel eu tadau ffol

Yn bobl anrasol, drawsion,

Mewn yspryd gwyrgam balch yn byw,

Heb fod i’w Duw yn ffyddlon.

9Plant Ephraim, er yn arfog lu,

Yn saethu â bwäau,

Yn nydd y gad, pan reitia ’u llaw,

A droisant draw eu cefnau.

10Torrent gyfammod Duw a’i lw,

Gwrthodent gadw ’i ddeddfau;

11Ac, er eu gweled lawer gwaith,

Ni chofient waith ei wyrthiau.

YR AIL RAN

12Rhyfedd y gwaith a wnaeth Duw Gwỳn

O flaen eu cyndyn dadau,

Yngwlâd yr Aipht mewn llawer man,

Yn Soan a’i gororau.

13Holltodd y môr, ac aeth â hwy

Yn droedsych drwy ei ganol;

Ac ar ei air y safai ’r dw’r

O’r ddeutu ’n bentwr gwyrthiol.

14Y dydd â niwl yn gwmmwl llaith

Ar hyd eu taith fe ’u dygodd;

A’r nos â cholofn danllyd glir

Drwy ’r anial dir fe’u t’wysodd.

15Fe holltodd greigiau ’r crindir cras,

A’r dwfr yn loywlas ffrydiodd;

Dïod i’w bobl yn afon fawr

Oddi yno i lawr a lifodd.

16O’r graig y dug y dwfr i lawr

Yn afon fawr bereiddiaf;

17Ond yn yr anial etto ’n fwy

Digiasant hwy ’r Goruchaf.

18Temtiasant wedi hyn Dduw Lwyd,

Gan ofyn bwyd yn flysig,

19Gan ddweyd yn erbyn Duw eu Tad

Trwy gablaidd frad ystyfnig.

“A all Duw,” meddant yn eu nwyd,

“Arlwyo bwyd a bara?

A all Efe ddarparu maeth,

A hulio lluniaeth, yma?

20“Tarawodd ddwfr o’r graig, mae’n wir,

Yn ffrydiau clir llifeiriol;

A all roi inni fara ’n fwyd,

A chigfwyd yn ddigonol?”

21Clybu Duw hyn, a llidio wnaeth,

A thân a ddaeth oddi wrtho;

Ennynai fflamllyd ddigter Ion

Yn erbyn meibion Iago:

22Am nad hyderent yn Nuw Dad,

A’i serch a’i gariad attynt,

Na chredu y deuai mewn llawn bryd

Ei ffyddlon iechyd iddynt.

23Archodd er hyn i’r wybren draw,

A drysau ’r gwlaw agorodd;

24Manna i’w bobl a wlawiodd Ef,

Ac ŷd y nef danfonodd.

25Bwyttaodd dyn, trwy roddiad Ner,

O fara pêr angylion;

Anfonodd fara ’r nef ei Hun,

A cha’dd pob un ei ddigon.

26Anfonodd Naf ei air yn chwai,

A chwythai y dwyrein‐wynt;

Ac yn ei nerth yn entrych ne’

Y dug Efe ddeheu‐wynt:

27-28A gwlawiai arnynt gig ar gylch

O amgylch eu pabellfa;

Adar fel tywod mân y môr

O fewn i fro ’r wersyllfa.

29Bwyttasant, fe’u digonwyd oll,

Cawsant eu holl ddymuniad;

30Ni roes yr Ion i’w blysig fant

Na ’u cyndyn chwant, ommeddiad.

Etto cyn iddynt lyngcu ’r cig

31Yr Ion ei ddig anfonodd

Yn fflam i’w herbyn, a nerth hon

Eu gwŷr goreuon lladdodd.

Y DRYDEDD RAN

32Pechent er hyn fwy ’n erbyn Duw,

Ni chredent i’w ryfeddod;

33Gwnaeth Yntau ’u dyddiau ’n wagedd gau,

A’u blwyddau ’n ofn a syndod.

34Pan laddai hwynt, fe ’u ceisient Ef,

At Arglwydd nef dychwelent;

Ymbilient eilwaith am ei ras,

Yn fore glas y ’i ceisient.

35Cofient mai Duw oedd etto ’u Tŵr,

Eu Craig a’u Prynwr gorau:

36Ond ffalsder oedd eu geiriau gau,

Rhagrithient â’u gwefusau.

37Ond er eu bod o wyrgam fron

Yn ffeilsion i’w gyfammod,

38Efe o’i ras ni ddaliodd wg, —

Maddeuodd ddrwg eu pechod.

Eu pechod a bardynodd Duw,

Ni sorrodd i’w distrywio;

Fe drodd o’i ras yn fynych iawn

Ei ddigter cyflawn heibio.

39O’i wir dynerwch cofiai Naf

Mai cnawd eiddilaf oeddynt,

A’u gwynt yn dïangc ar ei daith

Heb ddyfod eilwaith attynt.

40Digiasant Ior, Oh pa sawl gwaith!

Yn nyrys daith yr anial;

Tristâent ei galon gu bob cam,

Heb ddïolch am eu cynnal.

41Temtient yr Arglwydd yn barhâus

Gan droi ’n drahâus i’w erbyn;

Gosodent i Sanct Israel fry,

I’w nerth a’i allu, derfyn.

Y DRYDEDD RAN

42Anghofient waith ei law, a’r dydd

Y rhoes hwy’n rhydd o’u cwynfan;

43Ei wyrthiau yn yr Aipht mor glir,

Ei waith yn rhandir Soan.

44Eu holl afonydd troes yn waed,

Dwfr glân ni chaed i’w yfed;

45A rhoes gymmysgbla yn eu plith

O bob rhyw draphlith wybed.

Anfonodd lyffaint drwy’r holl fro,

Yn haint i flino ’u henaid;

46I’r lindys rhoddes gnwd eu tir,

A’u llafur i’r locustiaid.

47Eu gwinwŷdd a’u ffigyswŷdd clau,

Y cenllysg a’u llybyddiodd;

48Y cessair chwyrn a’r mellt o’r nen

Eu praidd a’u hychen lladdodd.

49Rhoes arnynt bwys ei ffyrnig fâr,

Ing, galar, a chyfyngdra;

Gwallgofodd hwynt yn llid ei wg

Ag Engyl drwg Gehenna.

50Yr Arglwydd dig a’u gwnaeth yn sarn

I draed ei farn angeuol;

I’r angau rhoes eu bywyd cla’,

Yn fwyd i’r pla distrywiol.

51Eu cyntaf‐anedigion oll

Tarawodd, holl oreuon

Eu nerth ynghreulon bebyll Ham, —

I ddïal cam ei weision.

52Ond aeth â’i bobl ei Hun fel praidd,

Dïadell sanctaidd Iago,

Fel Bugail da trwy’r anial cras, —

Arweiniai ’i ras hwynt ynddo.

53Tywysodd hwynt â’i dyner law,

Heb ofn na braw peryglon;

A’r môr dan lenni ’r dyfnder du

Gorchuddiodd lu ’r gelynion.

54I oror ei sancteiddrwydd gwir,

I’w sanctaidd dir fe ’u dygodd;

Cawsant y Mynydd Hwn i fyw, —

Deheulaw Duw a’i prynodd.

55Gyrrwyd y bobloedd gan yr Ion

O flaen ei weision allan;

A rhannodd eu hyfrydlawn fro

I’w bobl a’i eiddo ’i Hunan.

Mesurodd etifeddiaeth fras

Wrth linyn gras i’w bobol;

Eu pebyll hwynt i’w Israel lân

A wnaeth yn drigfan oesol.

Y BUMMED RAN

56Temtient er hyn yr Arglwydd Naf,

Eu Duw Goruchaf digient,

Ni chadwent dystiolaethau ’r Ion,

57O’i ffyrdd yn ffeilsion cilient.

Troisant ar ŵyr, fel bwa traws,

Gan ddilyn naws eu tadau;

58A’u huchel‐fannau gwnâent Dduw’n ddig,

Ac â’u cerfiedig ddelwau.

59Clybu Duw hyn, a sorri wnai,

A mawr ffieiddiai Iago;

60Gadawai ’i Babell lân ei Hun

A roesai i ddyn yn Siloh.

61Ei nerth a roes mewn caethder trwch,

A’i harddwch i’w gaseion;

62Fe droes oddi wrth ei bobl ei hedd,

Fe ’u rhoes i’r cledd yn ddigllon.

63Eu meibion ieuaingc dewrion glân

Gan fflammau tân a yswyd;

A’u teg forwynion hardd eu bri,

Er tecced, ni phrïodwyd.

64Offeiriaid Ion, cynghorwŷr hedd,

Ar fin y cledd syrthiasant;

Ac er mor drwch y lladdfa hon,

Eu gweddwon nid wylasant.

65Yna deffrôdd yr Arglwydd Cun,

Ac yna ’i hûn aeth heibio;

Fel cadarn gawr fo gwedi gwin

I’r rhyfel blin yn bloeddio.

66T’rawodd ei elyn o’r tu ol,

Ag oesol warth fe ’u clwyfodd;

67Pabell Joseph, gwrthododd hi,

Llwyth Ephraim ni etholodd.

68Er hyn dewisodd Arglwydd nef

Lwyth Judah ’n gartref iddo,

A’i fynydd hoff etholodd Duw,

Sef Sïon wiw, i drigo.

69Ac yno adeiladodd fry

Ei Lys a’i Dŷ sancteiddiol,

Yn gadarn fel y ddaear gron

Ar seiliau cryfion oesol.

70Dafydd etholodd Ion yn glau

O blith corlannau ’r bugail;

Rhoes iddo ef, yn bennaf un,

Ei bobl ei Hun i’w harail.

71Yn lle ’r cyfebron ddefaid blith,

Daeth amgen bendith iddo;

Ca’dd Jacob lân i’w porthi ’n wiw,

Ac Israel i’w bugeilio.

72Yntau o galon berffaith sydd

Yn wir fugeilydd arnynt;

A’i law gyfarwydd fore a nawn

Rhydd borfa faethlawn iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help