1Barn fy marn a dadleu ’m hachos,
Arglwydd, yn dy lys yn glau,
Rhag y genedl annhrugarog,
Rhag y dyn anghyfiawn gau;
Oh! f’ Eiriolwr,
Dadleu drosof yn dy ras.
2Ti yw Duw fy nerth a’m gallu;
Pa’m y bwriaist heibio ’th was?
Pa’m y rhodiaf yn alarus
Dan ormesol drais fy nghas?
Arglwydd grasol,
Paid â’m bwrw ymaith mwy.
3Anfon d’ oleu a’th wirionedd,
A thywysant hwy fyfi
Draw i fynydd dy sancteiddrwydd,
Draw i’th hawddgar bebyll Di:
Gad i’m gerdded
Dan d’ arweiniad, Arglwydd Ior.
4Yna ’r af at Allor Gwiwner,
Allor Aberth mawr y ne’;
Hwn yw Duw fy mhur orfoledd,
Duw f’ hyfrydwch yw Efe:
Ar y delyn
Fwyn y’th folaf Di, fy Nuw.
5F’ enaid ofnog, pa’m y crymmi
Mor iselaidd, gwael a gwyw?
Paid â’th derfysg, paid â’th ochain,
Dyro d’ obaith ar dy Dduw:
Molaf etto
Iachawdwriaeth bur ei wedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.