1Clodforaf byth yr Arglwydd Ion,
Ef â’m holl galon molaf;
I’w Enw ynghymmanfa ’r Saint
Trwy rasol fraint y canaf.
2Mawr yw ’th weithredoedd, Arglwydd gwâr,
A phawb a’u câr, a’u ceisiant:
3Dy iawnder pur hyd byth a dardd,
A’th waith sy’n hardd ogoniant.
4Gwnaeth gofio ’i drugareddau gwiw,
Trugarog yw a grasol;
5I bawb a’i hofnant ymborth cair,
Fe gofia ’i air byth bythol.
6I bobl ei ras mynegodd Ner
Rymmusder ei weithredoedd;
A rhoi i’w meddiant hwy a wnaeth
Dreftadaeth y cenhedloedd.
7Gwirionedd pur a ffyddlon farn
Yw gwaith ei gadarn wyrthiau;
Sicr a sefydlog yw dros byth
Ei air a’i ddilyth ddeddfau:
8Byth yn dragywydd fe ’u sicrhâed,
Yn iawn fe ’u gwnaed, a ffyddlawn;
Sefydlog ydynt a di‐goll,
A chywir oll ac uniawn.
9Cymmorth i’w bobl anfonodd Ef
O’i ’ddewid gref drag’wyddol;
Arswydwn oll ei Enw mwy,
Ofnadwy a sancteiddiol.
10Dechreu doethineb yw ofn Duw;
Deallus yw a’i hofnant,
Gan ufuddhâu i’w ddeddf ddi‐lyth:
Fe bery byth ei foliant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.