Lyfr y Psalmau 29 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1O moeswch nerth i’r Arglwydd Ion,

Chwi gedyrn feibion, moeswch;

2Ar dafod pur a pheraidd dant

Ei lân ogoniant cenwch.

Gogoniant Enw ’r Arglwydd Dduw

Mewn agwedd wiw mynegwch;

Addolwch Dduw ar dant a chân

Ynghafell lân ei harddwch.

3Lleferydd Duw yn nyfroedd nef

Sy daran gref gogoniant;

Ei amnaid yn gostegu sydd

Leferydd chwyrn lifeiriant.

4Yr Arglwydd Ior pan roddo ’i lef,

Mae honno ’n gref a nerthol;

Mewn prydferth ardderchowgrwydd gwiw

Mae llef ein Duw ’n rhagorol.

5Lleferydd Duw a blyga i lawr

Y cedrwydd mawr yn fuan;

Ein Duw â’i lef a ddryllia ’n rhwydd

Gadarnaf gedrwydd Liban.

6Wrth lais ein Duw y bryniau ’n syn,

Fel llo neu fynn, a neidiant;

Liban a Sirion uchel frig,

Fel iwrch neu ewig llammant.

7Gyrrir y tân, gan drwst ei lef,

Yn fellt trwy ’r nef yn saethu;

8Pair llef ein Duw i’r anial maith,

A Chades ddiffaith, grynu.

9Ei lef a bair i ’r ewig wan,

Gan ofn y daran, lydnu:

Trŷ prennau ’r coed yn noeth a gwyw

Wrth lais ein Duw ’n llefaru.

Ond yn ei Deml yn fwyaf clir

Y clywir llais ei eiriau;

Yn honno pawb a’i molant Ef

A grymmus lef ei enau.

YR AIL RAN

10Yr Arglwydd eistedd, er eu maint,

Ar y llifeiriaint rhuthrol;

Ac eistedd Ef, i’w dal i lawr,

Yn Frenhin mawr trag’wyddol.

11Yr Arglwydd i’w ffyddloniaid cu

Rhydd allu, nerth a mawredd;

Fe ddyry ’r Ion i’r union rai

Ei fendith a’i dangnefedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help