Lyfr y Psalmau 1 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Gwyn fyd y gwr ni rodia ’n ol

Drwg gyngor annuwiolion ffol;

Ni saif yn ffordd rhai drwg eu bryd,

Nid eiste’ ’mhlith gwatwarwŷr byd.

2Ond sydd heb wyro byth yn byw

Dan hoffi cyfraith bur ei Dduw,

Ac ar ei ddeddfau glân a rydd

Ei fryd a’i fyfyr nos a dydd.

3Bydd hwn fel pren plannedig îr

Ar lan afonydd dyfroedd clir;

Ni wywa ’i ddail, rhydd ffrwyth mewn pryd,

A’r hyn a wnel a lwydda i gyd.

4Ond am yr anwir drwg eu nwy’,

Nid felly bydd eu helynt hwy;

Ond fel mân us y bydd eu hynt,

A chwelir ymaith gan y gwynt.

5Am hynny ’r rhai yn anwir sydd,

Ni safant yn y farn a fydd;

Na phechaduriaid brwnt eu bai

Ynghynnulleidfa ’r cyfiawn rai.

6Canys yr Arglwydd oddi fry

A edwyn ffordd y cyfiawn cu;

Ond am yr annuwiolion gŵyr,

Difethir hwynt a’u ffordd yn llwyr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help