1Arglwydd, gwrando lef fy ngweddi,
Erglyw gri ’m deisyfiad gwael;
Clyw er mwyn d’ addewid rasol
A’th gyfiawnder nefol hael;
2Ac na ddwg dy was i gyfrif
Yn dy gyfiawn Lys mewn brawd;
Gwn na chyfiawnhêir, O Arglwydd,
Ger dy fron un dynol gnawd.
3F’ enaid gwan fy nghas erlidiodd,
F’ yspryd curodd hyd y llawr;
Mewn tywyllwch gwnaeth im’ drigo,
Fel mewn beddrod, heb un wawr:
4Pallu, megis ar ymadael,
Ynof mae fy yspryd tlawd;
Synnu mae fy nghalon druan
Gan fy nghystudd yn fy nghnawd.
5Yr hen ddyddiau gynt a gofiais,
Syn‐fyfyriais ar dy waith;
Dwys bryderai fy meddylfryd
Am dy holl weithredoedd maith:
6Lledais fry fy nwylaw attat
Yn f’ ymbiliau nos a dydd;
F’ enaid, megis maes sychedig,
Am dy ras mewn hiraeth sydd.
7Arglwydd, gwrando ’m llef hiraethlon,
Pallodd f’ yspryd am dy hedd;
Na chudd d’ wyneb siriol rhagof,
Rhag im’ syrthio i bwll y bedd:
8Moes im’ glywed llais dy gariad
I’m diddanu fore glas;
Ynot, Arglwydd, y gobeithiaf,
Pan ddeallwyf ffordd dy ras.
Yn dy ffordd, fy Nuw, y rhodiaf,
Dyrchaf f’ enaid attat Ti;
9Gwared fi rhag trais y gelyn,
Yn dy law ’r ymguddiais i:
10Dysg im’ wneuthur dy ewyllys,
Ti yw ’m Harglwydd Ior a’m Duw;
Dy Lân Yspryd fyddo ’n f’ arwain
Mewn unionder tra bwyf byw.
11Duw, bywhâ fi â’th drugaredd,
Mawl i’th Enw byth fydd hyn;
Ac er mwyn dy bur gyfiawnder
O gyfyngder f’ enaid tyn:
12O distrywia ’m holl erlidwŷr,
Poenwŷr f’ enaid, yn dy ras;
Gwared f’ enaid ofnus rhagddynt,
Canys ydwyf itti ’n was.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.