Lyfr y Psalmau 73 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Da ’n wir i’w Israel bur ei Hun,

I’r glân o galon, yw ’r Duw mawr: —

2Er hynny braidd na thripiais i,

Bu ’m traed ym mron a llithro i lawr.

3Canys tramgwyddais wrth y ffol,

Pan welais lwydd yr anwir hyf;

4Ni ’s rhwymir gan angeuol boen,

A’u nerth sy fywiog iawn a chryf.

5Fel eraill ni ’s cystuddir hwy,

Ni ’s poenir gyd â dynion byd;

6Am hyn cadwynodd balchder hwynt,

A thrawsedd yw eu gwisg i gyd.

7-8Gan falchder chwydda ’u llygaid llawn,

Mewn llygredd soniant am eu trais;

Ymchwydda ’u calon falch ei bryd,

Uchel gan ryfyg yw eu llais.

9Eu tafod sydd yn erbyn nef,

A’u geiriau trwy ’r holl ddaear ant;

10Am hyn y dychwel yma ’i bobl,

A phïol lawn wasgedig cânt.

11“Pa fodd y gwel yr Uchel Dduw,”

Meddant, “Pa fodd y gŵyr yr Ior?”

12Fel dyma lwydd anwiriaid byd,

Ar gynnydd fyth mae ffrwyth eu ’stôr.

YR AIL RAN

13“Yn ofer iawn y purais i,

Gan hynny, frynti ’r galon fau;

Ofer oedd golchi ’m dwylaw ’n bur,

A gwagedd ydoedd ymlanhâu:

14“Ar hyd y dydd y’m maeddwyd i,

Bob bore cospid fi ’n ddi‐nam:” —

15Na! pe dywedwn felly, Ner,

A thylwyth dy blant Di gwnawn gam.

16Pan geisiais ddirnad hyn yn iawn,

Blin im’ ac anhawdd oedd y gwaith;

17Nes aethum i sancteiddle Duw, —

Deallais yno ben eu taith.

18Duw! gwelaf it’ eu gosod hwy

Mewn llwybrau llithrig, sythion, serth,

Er mwyn eu cwympo i lawr yn gynt

I ddyfnder aphwys distryw certh!

19Mor chwim ar goll yr aethant hwy,

Anial a diffaith ar bob llaw!

Pallasant, diflannasant oll,

Diffoddwyd hwy gan ofn a braw!

20Fel breuddwyd, pan ddeffrôer o gwsg,

Yn diffodd, fel na ’s cofier mwy,

Felly, O Arglwydd, pan ddeffrôech,

Y gwawdi Di eu delw hwy.

21Fel hyn y galon fau oedd drist,

Fel hyn y’m pigwyd yn fy mron;

22Mor ynfyd ac heb wybod dim,

Anifail oeddwn ger dy fron!

Y DRYDEDD RAN

23Etto ’rwy ’n wastad gyd â Thi,

Pa ddrwg, pa niweid im’ a ddaw?

I’m tywys yn dy sanctaidd ffyrdd

Ymeflaist yn fy nehau law.

24Tra byddwyf isod yma ’n byw,

A’th gyngor y’m harweini ’n glau;

Ac yna i ogoniant nef

Ti a gymmeri ’r enaid mau.

25Pwy, pwy sy gennyf ond Tydi,

Fy Nuw, o fewn y nefoedd fawr?

A chyd â Thi ni fynnwn byth

Neb arall ar y ddaear lawr.

26Fy nghnawd a’m calon pallu wnant,

Ond nerth fy nghalon yw fy Nuw;

Fy rhan drag’wyddol yw Efe,

Fy rhan i farw ac i fyw.

27Canys difethir pawb a ant

O’th lwybrau glân ym mhell ar ŵyr;

Pawb a butteinio oddi wrthyt Ti,

Distrywiaist hwynt â’th lid yn llwyr;

28Minnau, nesâu at f’ Arglwydd Dduw

Sy dda, sy felus iawn mi:

Mae ’m gobaith yn yr Arglwydd Ior,

I draethu ’th holl weithredoedd Di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help