1Nerth a nodded mewn cyfyngder,
Cymmorth hawdd ei gael yw Ior:
2Pe symmudai cylch y ddaear,
Ped âi ’r creigiau i ddyfnder môr,
Nid arswydwn;
Duw sy nodded in’ a nerth.
3Er terfysgu dwfr yr eigion,
Er ei ruad croch a’i lef,
Er i graig a mynydd grynu
Gan ei ruthr a’i ymchwydd ef, —
4Wele afon
Loyw ’n llonni dinas Duw.
Sanctaidd ddinas y Goruchaf,
Glân breswylfod iddo i fyw;
5Duw sy ’n wastad yn ei chanol,
Fore glas fe ’i helpa Duw;
Byth nid ysgog,
Byth ni syfla caerau hon.
YR AIL RAN6Er ysgogi ’r hen deyrnasoedd,
Er terfysgu ’r bobl ynghyd;
Etto pan lefarai ’r Duwdod,
Wrth ei lef y toddai ’r byd:
7Duw y lluoedd,
Arglwydd Jacob in’ sy ’n blaid.
8Deuwch, gwelwch waith yr Arglwydd; —
Fe anrheithiodd ddaear gron;
9Gwnaeth i drwst y gad ddistewi,
Torrodd nerth y wayw‐ffon;
Dryllia ’r bwa,
A’r cerbydau llysg â thân.
10Tewch, a pheidiwch, a gwybyddwch
Mai Myfi, Myfi, sy Dduw;
Mawr yw f’ Enw ym mysg y bobloedd,
Uwch na ’r nef a’r ddaear yw. —
11Duw y lluoedd,
Arglwydd Jacob in’ sy ’n blaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.