1Duw a’i fawr ddaioni molwch,
Canys pery byth ei ras:
2Duw y duwiau byth clodforwch,
Canys pery byth ei ras.
3Molwch Ior arglwyddi bydol,
Canys pery byth ei ras:
4Efe ’n unig wna ’n rhyfeddol,
Canys pery byth ei ras.
5Mewn doethineb gwnaeth y nefoedd,
Canys pery byth ei ras:
6Daear taenodd uwch y dyfroedd,
Canys pery byth ei ras.
7Fe wnaeth oleuadau mawrion,
Canys pery byth ei ras:
8Haul i lywio ’r dydd yn ffyddlon,
Canys pery byth ei ras.
9Lloer a ser y nos i lywio,
Canys pery byth ei ras:
10Lladdwyd cynblant Soan ganddo,
Canys pery byth ei ras:
11Ac fe ddug o’u mysg ei bobol,
Canys pery byth ei ras:
12A llaw gref ac â braich nerthol,
Canys pery byth ei ras.
13Y môr coch yn ddeuparth rhannodd,
Canys pery byth ei ras:
14Gwnaeth i’w Israel lân fyn’d trwodd,
Canys pery byth ei ras:
15’Sgytiodd Pharaoh a’i lu ynddo,
Canys pery byth ei ras:
16Trwy ’r anialwch t’wysodd Iago,
Canys pery byth ei ras.
17T’rawodd lawer teyrn galluog,
Canys pery byth ei ras;
18Lladdodd lawer pen coronog,
Canys pery byth ei ras:
19Sehon brenhin yr Amoriaid,
Canys pery byth ei ras;
20Ac Og brenhin Basan ddiriaid,
Canys pery byth ei ras:
21Rhoes eu tir yn etifeddiaeth,
Canys pery byth ei ras,
22I’w Israeliaid yn dreftadaeth,
Canys pery byth ei ras.
23Yn ein hisel radd fe ’n cofiodd,
Canys pery byth ei ras:
24Rhag ein gelyn fe ’n hachubodd,
Canys pery byth ei ras.
25I bob cnawd y mae ’n rhoi lluniaeth,
Canys pery byth ei ras:
26Rhoddwch i Dduw ’r nef ganmoliaeth,
Canys pery byth ei ras.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.