1Curwch ddwylaw, bobl y ddaear,
Llafar genwch i Dduw ’r nef:
2Duw Goruchaf yw ei Enw,
Brenhin daear gron yw Ef.
Bobloedd, ofnwch
Ac arswydwch ger ei fron.
3Dwg Efe ’r cenhedloedd danom,
Dan ein traed y bobloedd oll;
4Dethol in’ ein hetifeddiaeth,
Etifeddiaeth lawn ddi‐goll,
Harddwch Jacob,
Gwrthrych cu ei hoffder Ef.
YR AIL RAN5Pan aeth Duw i fro ’r uchelder,
Bloedd o groesaw roddai ’r nef;
Udgyrn arian Gwynfa lawen
Seinient pan ddyrchafodd Ef:
Haleluiah!
Seiniwn ninnau ’n unfryd oll.
6Cenwch fawl i’n Brenhin, cenwch,
Cenwch lafar glod i Dduw;
7Cenwch foliant yn ddeallgar,
Brenhin yr holl ddaear yw:
Haleluiah!
Duw sy Frenhin daear gron.
8Mae teyrnasoedd byd a’i bobloedd
Dan deyrn‐wialen ein Duw ni;
Ar ei orsedd wen mae ’n eistedd,
Gorsedd ei sancteiddiol fri:
Haleluiah!
Duw yw Llywydd nef a llawr.
9Wele ’n awr frenhinoedd daear
Yn ymgynnull dano ’nghyd,
Oll yn wir Israeliaid iddo: —
Eiddo Duw yw estylch byd:
Haleluiah!
Dirfawr y dyrchafwyd Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.