1O Cenwch fawl i’r Arglwydd Ion,
Chwi holl drigolion daear;
2Yn llawen gwasanaethwch Ner
Trwy ganiad per a llafar.
3Yr Ion, gwybyddwch, yw ’n Duw Rhi,
Efe, nid ni, a’n lluniodd;
Ei bobl ŷm ni, a phraidd ei ras,
Mewn porfa las fe ’n rhoddodd.
4O ewch i’w byrth â dïolch gwiw,
A mawl ewch i’w gynteddau;
Bendigwch Enw Duw ’n ddi‐nam,
Dïolchwch am ei ddoniau.
5Oblegid da yw ’n Duw di‐lyth,
Ei ras sy byth heb ddiwedd;
Tra pery oesoedd daear lawr
Y pery ei fawr wirionedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.