1Y ty na ’s adeilado Ner,
Mae ’n ofer gweithio ’i bared;
A’r ddinas a’r na’s cadwo Duw,
Oferedd yw ei gwylied.
2Ofer iwch’ fore a hwyr o hyd
Ennill eich pryd galarus;
Felly rhydd Duw i’w blant bob un
A’i carant, hûn gysurus.
3Y plant o roddiad Duw a ddaeth,
Ynt etifeddiaeth fuddiol;
A’i wobr i’r rhai sy gantho ’n gu
Yw ffrwyth y bru sancteiddiol.
4Fel y mae cryfion saethau llym
Gan wr o rym cyfnerthol,
Felly y mae yr ieuaingc blant,
Pan fyddant yn rhinweddol.
5Y sawl bo ’i gawell, dedwydd yw,
Yn llawn o’r cyfryw saethau;
Wrth siarad â’u gelynion oll
Ni syrth eu digoll eiriau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.