1Y Sawl sy ’n ofni, dedwydd yw,
Yr Arglwydd Dduw yn ffyddlon;
Ac sydd yn ffyrdd yr Ion di‐lyth
Yn rhodio byth yn union.
2Canys i ti mwynhâd a ddaw
O waith dy ddwylaw ddigon;
A dedwydd iawn a fyddi di,
A da fydd i dy galon.
3Dy wraig fydd fel gwinwŷdden lawn
O beraidd rawn yn sypiau;
Ar hyd ystlysau ’th drigfa lon
Yr estyn hon ei changau.
Dy blant o gylch dy fwrdd a fydd
Fel coed olewŷdd tirfion;
4Fel hyn os ofni ’r Arglwydd Rhi
Ti gei ddi‐ri’ fendithion.
5Yr Ion ei fendith it’ a rydd
O Sïon fynydd hyfryd;
A thi gei weled a mwynhâu
Llwydd Salem ddyddiau ’th fywyd.
6A thi gei weled yn dy wlad
Dy blant a’u had a’u hwyrion;
Rhydd Ior it’ weled cyn dy fedd
Gyflawnder hedd ei Sïon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.