1Dyrchafaf fy llygaid i’r nefoedd
A’r nefol fynyddoedd yn awr;
Oddi yno daw cymmorth a chryfder
A llewyrch mewn amser i’r llawr:
2Fy nghymmorth, O Dduw fy nghyfiawnder,
Oddi wrthyt ar fyrder a ddaw;
Y nefoedd a’r ddaear, pan fynnodd,
Yn gyflawn a luniodd dy law.
3Mae ’th geidwad yn wastad yn neffro,
A cheidw, rhag llithro, dy droed;
4A llygaid Duw Israel ni hunant,
Ni chauodd ei amrant eriôed:
5A’r Duw sydd i Israel yn geidwad,
I tithau ’n warcheidwad y sydd;
A chysgod yn d’ ymyl i’th enaid
Rhag dychryn a niwaid a fydd.
6Y dydd gan yr haul ni chei niwaid,
Na chan y lloer gannaid yr hwyr;
7Dy Dduw rhag pob drwg fydd dy fwcled,
Dy enaid a wared yn llwyr:
8Yr Arglwydd yn wastad a’th warchod,
Wrth fyned a dyfod bob dydd;
Yr awrhon a byth o hyn allan
Dy darian ei fendith a fydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.