1Na thaw, O Dduw y moliant mau,
2Can’s genau ’r drwg a’r anwir,
Mewn twyll a chelwydd o bob rhyw,
Ar f’ enaid gwyw agorir.
3Cylchynant fi â geiriau cas,
Ac ymladdasant â mi;
4Am gariad, gwrthwynebiad caf, —
Ond mi arferaf weddi.
5Rhônt immi ddrwg am dda, ar gam,
Casineb am fy nghariad:
6Dod ef yn llaw ’r annuwiol, Ion,
Am ei anffyddlon fwriad.
A Satan, am ei gelwydd gau,
Ar ei law ddehau safed;
7Pan farner, euog y caiff fod;
A’i weddi ’n bechod bydded.
8Byr fyddo ’i oes a’i ddyddiau mall,
Caed arall ei esgobaeth;
9Bo ’i blant amddifaid heb nawdd neb,
A’i wraig yn weddw heb hiraeth.
10Crwydred o ddrws i ddrws ei blant,
Cardottant bryd i’w fwytta;
O ’u hanial dir, heb neb i’w plaid,
Ceisiant eu tammaid bara.
11Rhwyded y ceisiad oll a fedd,
Anrheithied cledd ei lafur;
12Na foed neb wrtho, (am ei frad,)
Nac wrth ei had yn dostur.
13Ei holl wehelyth, mab ac ŵyr,
I lawr yn llwyr a dorrer;
A’r nesaf oes trwy farwol glwy’,
Eu henwau hwy dilëer.
14Cofier ger bron Duw mawr y nef
Ei bechod ef a’i dadau;
Na chuddier bai ei fam ddi‐ras
Na ’i hatgas anwireddau:
15Byddant bob amser, ef a hon,
Mewn cof ger bron yr Arglwydd,
I dorri eu coffa cyn bo hir
O’r frodir yn dragywydd.
16Trugaredd ef ni wnaeth i’w frawd,
Erlidiai ’r tlawd a’r truan;
Tywalltai ’u heinioes yn y llwch
A’i ddwylaw trwch ei hunan.
17Gorhoffi melldith chwerw a wnaeth,
A hithau a ddaeth atto;
Ni fynnai fendith yn ei dŷ,
Aeth hithau fry oddi wrtho.
18Melldith a wisgai fyth yn dô
Am dano fel dilledyn,
Hithau i’w gnawd a’i esgyrn aeth
Fel dwfr y daeth i’w ddilyn.
19Boed iddo byth, o herwydd hyn,
Fel ei ddilledyn gwisgo;
Boed iddo byth, am ddrwg ei fai,
Yn wregys a’i gwregyso.
20Hyn fyddo gan fy Nuw yn dâl
I ddïal ar fy ngelyn,
Yr hwn mewn enllib, sen, a gwg
A ddywed ddrwg yn f’ erbyn.
YR AIL RAN21Gwna Dithau erof, Arglwydd Rhi,
Er mwyn dy fri a’th Enw;
A gyr oddi wrthyf, yn dy ras,
Fy ngelyn atgas hwnnw.
22Truan a thlawd wyf fi, fy Nuw,
A’m calon friw archollir;
23Fel cysgod wyf pan gilio ’n ddim,
Fel locust y’m hysgydwir.
24Fy ngliniau sydd yn awr yn wan
Ac eiddil gan ymprydio;
A’m cnawd a guriodd, Arglwydd Ner,
O eisiau brasder iddo.
25Pan welent fi y truan tlawd,
Siglent mewn gwawd eu pennau: —
26Cyfnerthed grym dy law dy was
Yn ol dy ras a’th ddoniau.
27Felly cânt wybod mai Tydi
A’th law, fy Rhi, mor rhyfedd
A wnaethost hyn yn rasol im’
Drwy nerthol rym dy fawredd.
28Rhônt hwy felldithion rif y gwlith,
Dy fendith dyro Dithau;
Eu gwarth a fo ’u cyfodiad llawn,
A llawen iawn bwyf finnau.
29Gwisger fy nghas â gwarth yn glau,
Ymwisgant â’u cywilydd;
Bo gwawd yn gochl i guddio ’u gwedd
Am eu hanwiredd beunydd.
30Uchel y traethaf fawl Duw nef,
Moliannaf Ef â’m genau;
Canaf ei glod â llawen floedd,
Yn hyf ar g’oedd myrddiynau.
31Yr Arglwydd ar ddeheulaw ’r tlawd
A saif ddydd brawd i’w nerthu,
Rhag i’w gyhuddwr mewn sarhâd
Trwy gam a brad ei farnu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.