1Enwog yn Judah lân yw Duw,
Ei Enw yn Israel uchel yw,
2Yn Salem mae ei babell bur:
Bryn Sïon yw ei drigfod Ef,
3Lle torrodd rym y darian gref,
Y frwydr, y cledd, a’r bwa dur.
4Mwy gogoneddus wyt a chryf
Na bryniau ’r traws anrheithwŷr hyf;
5’Speiliwyd y dewrion yn eu braw,
Cysgasant hûn yr angau du;
A’r gwŷr o nerth, er maint eu llu,
Collasant rym a nerth eu llaw.
6Duw Jacob, gan dy gerydd llym,
Y march a’r cerbyd cryf eu grym
A roed yn llonydd yn y llwch.
7Ofnadwy iawn wyt Ti, O Dduw,
A phwy o’th flaen a saif yn fyw,
Pan danio fflam dy ddigter trwch?
8Dy farn a ddaeth o’r nefoedd fawr,
A’i chlywed a wnaeth daear lawr,
Dan ofni a distewi ’n fud;
9Pan gododd Duw i farnu ei gas,
Ac i waredu yn ei ras
Yr holl rai llednais yn y byd.
10Cynddaredd dyn, O Dduw, a’th fawl;
Gweddill cynddaredd, Duw a’i tawl:
11Addêwch a thelwch iddo ’n awr;
Anrhegwch i’r Ofnadwy ’nghyd:
12Tyr ymaith yspryd mawrion byd,
Tarfa frenhinoedd daear lawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.