Lyfr y Psalmau 107 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Molwch yr Arglwydd, molwch Dduw,

Daionus yw ei Fawredd;

Ei gariad Ef a’i ras di‐lyth

A bery byth heb ddiwedd.

2Ei waredigion canant hyn,

Hwynt rhag eu gelyn cadwodd;

3O’r dwyrain, llewin, gogledd, de’,

O’i ras Efe a’u casglodd.

4Crwydrasant yn yr anial wlad

Heb gartref mad i drigo;

5Mewn newyn tost a syched caid

Eu henaid yn diffygio.

6Yna llefasant ar Dduw Ner,

Pan oedd cyfyngder arnynt;

O’u gorthrwm ing Efe a’u rhôdd,

Gwaredodd bawb o honynt.

7Tywysodd hwynt ar hyd y ffordd,

Yr uniawn brif‐ffordd nefol;

Ac a’u harweiniodd yn ei ras

I ddinas gyfanneddol.

Chorus.

8O na foliannent oll yn rhwydd

Yr Arglwydd am ei roddion,

Ei ras a’i ryfeddodau fil

I heppil meibion dynion.

YR AIL RAN

9Diwalla ’r Ion, yn ol ei raid,

Yr enaid fo mewn syched;

Ac â’i ddaioni hael y dyn

A fo mewn newyn caled.

10Y rhai sy ’n byw mewn tywyll nos

A chysgod dunos angau;

Y rhai sy â’u traed yn rhwym dan farn

Mewn haiarn a chystuddiau:

11Am anufudd‐dod gwaethaf ryw

I eiriau Duw sancteiddiaf,

Ac am ddirmygu gras yr Ior

A chyngor y Goruchaf:

12Am hynny darostyngodd Ion

Eu calon â chaledi;

Syrthiasant oll oddi ar eu traed,

A neb ni’s caed i’w codi.

13Yna llefasant ar Dduw Ner,

Pan oedd cyfyngder arnynt;

O’u gorthrwm ing Efe a’u rhôdd,

Gwaredodd bawb o honynt.

14Dygodd o d’wyllwch hwynt yn ol,

O ganol cysgod angau;

Dygodd hwynt i oleuni dydd,

A roes hwy ’n rhydd o’u rhwymau.

Chorus.

15O na foliannent oll yn rhwydd

Yr Arglwydd am ei roddion,

Ei ras a’i ryfeddodau fil

I heppil meibion dynion.

Y DRYDEDD RAN

16Torrodd y dorau pres yn glau,

A’r heiyrn farrau drylliodd: —

17Ynfydion am eu camwedd gau

A’u beiau a gystuddiodd.

18Pob bwyd ac ymborth, dan eu pla,

O’u calon a ffieiddiant;

Eu henaid sydd ar drengu ’n glau,

Hyd byrth yr angau daethant.

19Yna llefasant ar Dduw Ner,

Pan oedd cyfyngder arnynt;

O’u gorthrwm ing Efe a’u rhôdd,

Gwaredodd bawb o honynt.

20Anfonodd Ef ei air i’w plith,

Ei fendith a’u hiachaodd;

O’u distryw dwys, gan drugarhâu,

Hwynt oll yn glau gwaredodd.

Chorus.

21O na foliannent oll yn rhwydd

Yr Arglwydd am ei roddion,

Ei ras a’i ryfeddodau fil

I heppil meibion dynion.

Y BEDWAREDD RAN

22Aberthant hefyd ebyrth mawl,

A’i waith yn ddidawl traethant;

23Ei waith ar wyneb moroedd byd

A llawen fryd mynegant.

Y rhai sy ’n hwyliaw ar eu hynt

Ynghanol gwỳnt a thonnau,

24A welant ryfeddodau ’r Ion

Yn eigion y dyfnderau.

25Ar arch yr Ior y cyfyd gwỳnt,

Tymhestl‐wỳnt echrys ffyrnig;

Fe ddyrcha ’i ddyfroedd yn ei nerth

Yn donnau certh ewynfrig

26Esgynant hyd y nef yn awr,

Ac yna i lawr i’r dyfnder;

A’u henaid yn y cenllif gwỳn

A dawdd yn llyn gan flinder.

27Ymdroant ar y bwrdd am hyn,

Fel meddwyn ymsymmudant;

Eu medr ar frig y wendon wleb,

A’u holl ddoethineb, pallant.

28Ac yna gwaeddant ar Dduw Ner

Pan ddêl cyfyngder arnynt;

O’u cyni a’u trallodus fyd

Fe weryd bawb o honynt.

29Y ’storm yn dawel Ef a wna,

A’r tonnau a ostegant;

30Yn llawen iawn fe ’u dwg cyn hir

I’r lan a wir ddymunant.

Chorus.

31O na foliannent oll yn rhwydd

Yr Arglwydd am ei roddion,

Ei ras a’i ryfeddodau fil

I heppil meibion dynion.

Y BUMMED RAN

32Ynghynnulleidfa ’r bobl â’u llef

Ei foliant Ef dyrchafant,

Ac yn eisteddfa ’r hynaf rai

Yn hyfryd a’i moliannant.

33Gwna ’r ffrydiau llawn yn ddiffaith dir

A’r sychdir yn ffynhonnydd;

34A’r tir ffrwythlona’ ’n ddiffrwyth wedd

Am drosedd ei breswylydd.

35Gwna ’n llyn o ddwfr yr anial dir,

Gwna ’r crasdir yn afonydd;

36Yma ’r newynog cartref cânt,

Lle cyfanneddant beunydd;

37Lle ’r hauant feusydd yn y tir,

Gwinllannoedd îr blagurog;

Y rhai i’w llaw a ddygant lwyth

O rawn yn ffrwyth toreithiog:

38Cyflawnder bendith Ior mwynhânt,

Fel yr amlhânt yn llawer,

Hwy a’u ’nifeiliaid yn y wlad,

Heb fod lleihâd i’w nifer.

Y CHWECHED RAN

39Lleihêir hwynt hefyd yn y tir,

Gostyngir â chaledi;

Ymwêl yr Ion â hwynt mewn gwg,

A blinder, drwg, a chyni.

40Ar foneddigion Ef a rydd

Gywilydd yn gawodau;

Fe wna i’w henaid grwydro ’n hir

Mewn anial dir dilwybrau.

41Ond pen y tlawd Efe mewn pryd

A gyfyd o’i gystuddiau;

A’i deulu gwna fel praidd yn llon

O gylch ei fron yn chwarau.

42Wrth wel’d mor hardd yr helynt hon,

Yr union cânt lawenydd;

A phob anwiredd brwnt yn glau

Ei safn a gau gan g’wilydd.

43Y neb sy ddoeth i ddal yn llawn

Ar hyn âg iawn galonnau,

Hwy a ddeallant waith yr Ion

A’i dirion drugareddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help