1Gwyn fyd y gwr sy ’n ofni Duw,
Bendigaid yw a dedwydd;
Gwỳn fyd y gwr sy fyth yn glau
Yn hoffi deddfau ’r Arglwydd.
2Ei had fydd cadarn yn y tir;
Bendithir teulu ’r uniawn;
3Bydd amldra golud yn ei dŷ,
Dros byth y pery ’n gyfiawn.
4O dywyll nos goleuni clir
A gyfyd i’r uniawnion;
Y mae’n drugarog, fel ei Dduw,
Tosturiol yw a chyfion.
5Trugarog ydyw y gwr da,
Rhydd fenthyg, gwna gymmwynas;
A’i holl achosion ym mhob man,
Wrth farn fe ’u trefna ’n addas.
6Y cyfiawn nid ysgogir byth,
Bydd cof di‐lyth am dano;
7Nid ofna ’i galon drais na gwg,
Na ’r chwedlau drwg a glywo.
Ei fron sy ddisigl ar ei Dduw,
8Attegol yw, heb ddychryn;
Nid ofna, nes y gwelo ’i flys
A’i ’wyllys ar ei elyn.
9Gwasgarodd, i’r tylodion rhoes,
Pery bob oes ei iawnder;
A’i gorn ym mraint gogoniant gwir
A gyfyd i’r uchelder.
10Fe ’i gwel yr anwir, — ffromma’n ddig,
Dan ffyrnig ringcian dannedd;
Tawdd ymaith; felly bydd i’w frad
Ac i’w ddymuniad, ddiwedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.