1Paham, O gadarn uchel fri,
Y bosti mewn anwiredd?
Yn wastad im’, a hyn ar frys,
Rhydd Duw o’i lys drugaredd.
2Dy dafod, yn ei waith o drais,
A ddyfais ysgelerder,
Fel ellyn llym o galed ddur,
Yn gwneuthur twyll a thrawsder.
3Hoffaist y drwg yn fwy na ’r da
A thwyll yn fwy na iawnder;
4Hoffaist bob gair distrywiol nod,
Ti dafod gau ysgeler!
5Mewn distryw byth tyn Duw di ’mhell
Yn chwyrn o’th babell allan;
O dir y byw diwreiddia ’r Ion
Dydi a’th greulon amcan.
6Y cyfiawn, am farn Duw yn syn,
Wrth weled hyn, a ofnant;
Ac i’r drygionus rhoddant sen,
Ac am ei ben y chwarddant:
7“O wele ’r gwr ni wnaeth yr Ion
Galluog iddo ’n gryfder;
Credodd yn llïaws ei ddâ byd,
A’i nerth i gyd oedd trawsder.”
8Minnau fel olewydden îr
Yn Nhŷ Dduw ’n wir blodeuaf,
Ac yn nhrugaredd f’ Arglwydd Ner
Bob amser yr hyderaf.
9Clodforaf Di dros fyth yn rhwydd
O herwydd y fath wyrthiau;
Disgwyliaf wrth dy Enw ’n llon,
Mae ’n dda ger bron dy Seintiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.