1Yn Babilon, gan dristyd swrth,
Eisteddem wrth yr afon:
Gwnai dagrau ’n llygaid yno ’n bwl
Wrth feddwl am ein Sïon.
2Rhoem ein telynau ar goed plan
Ynghrôg wrth lan Euphrates;
Gan hiraeth trwm mewn estron dud,
Pob tant oedd fud a diles.
3Mynnai ’n hanrheithwŷr gennym gân,
A griddfan ar ein calon; —
“Gadewch in’ glywed heddyw ’n glau
Rai o ganiadau Sïon.”
4Pa fodd y canwn gerdd ein Duw,
A chwithau i’w dirmygu?
Mewn estron wlad, â llygad llawn,
Peth chwithig iawn yw canu.
5Os â Caersalem byth o’m co’,
Aed angho ’r gân bereiddiaf;
6Palled fy nhafod, oni bydd
Hi fy llawenydd pennaf.
7O Arglwydd, cofia, mewn llid ffrom,
Blant Edom yn ein diwrnod;
“Dinoethwch,” meddant, “oll i gyd
Gaersalem hyd ei gwaelod.”
8Ferch Babel, er mor deg a glân,
Anrheithia ’r tân dy gaerau:
O gwỳn ei fyd a dalo i ti
Fel y gwneist ti i ninnau.
9Gwỳn fyd a ddelo at dy blant,
(Ni haeddant ddim tosturi,)
A’u cym’ro, ac a d’rawo ’n swrth
Eu ’mennydd wrth y meini.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.